Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd cydweithrediad arloesol rhwng Heddlu Gogledd Cymru a thîm ymchwil fforensig yn rhoi cymorth amhrisiadwy i ymchwiliadau i ymosodiadau ar dda byw yn y dyfodol.
Mae ymosodiadau ar dda byw gan gŵn yn parhau i andwyo cymunedau cefn gwlad ac amcangyfrifwyd eu bod wedi costio £1.52 miliwn i ffermwyr Prydain llynedd, yn ôl i ddata diwydiant.
Gyda chyllid gan DEFRA, mae swyddogion Gogledd Cymru wedi uno gyda gwyddonwyr ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl i weithredu proses ymchwilio DNA. Mae hyn er mwyn adnabod cŵn a amheuir o fod wedi cyflawni ymosodiadau o'r fath.
Fel rhan o brosiect ymchwil parhaus a ddechreuodd yn 2021, mae swyddogion y Tîm Troseddau Cefn Gwlad sy'n ymchwilio i'r digwyddiadau hyn wedi casglu samplau swab gan dda byw sydd wedi'u hanafu a rhai marw o fannau a lleoedd trosedd.
Anfonir samplau a gasglwyd ymlaen at yr ymchwilwyr prifysgol. Mae eu gwaith yn ceisio ynysu DNA'r ci o dan sylw.
Gobeithir y bydd y canlyniadau yn galluogi heddluoedd, a gwasanaethau gwyddor fforensig ledled Cymru a Lloegr i ddefnyddio arfer DNA gorau wrth ymdrin ag ymosodiadau ar dda byw o dan y grymoedd newydd a gynigwyd yn y Bil Anifeiliaid a Gedwir.
Mae'r ddeddfwriaeth a gefnogir gan y llywodraeth ar hyn o bryd yn gwneud ei ffordd drwy'r Senedd a bydd yn cynnwys Cymru a Lloegr.
Mae'n ganlyniad sawl blwyddyn o waith gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Grŵp Troseddau Da Byw CCPSH, undebau amaeth, grwpiau llesiant anifeiliaid a DEFRA.
O dan y ddeddfwriaeth arfaethedig, bydd gan swyddogion y grym i gasglu samplau DNA gan dda byw a chŵn a amheuir o gyflawni ymosodiad.
Cymerir samplau DNA ond lle mae tystiolaeth yn y fan a'r lle yn awgrymu fod ci penodol yn gallu bod yn gyfrifol yn unig. Nid yw'n gynnig am gronfa ddata DNA genedlaethol i gŵn.
Byddai'r Ddeddf newydd hefyd yn rhoi grymoedd atafaelu cynyddol i swyddogion. Byddai'n cryfhau lle'r llys i wahardd perchnogion cŵn rhag cadw cŵn eraill. Byddai'n ehangu'r nifer o rywogaethau da byw ac ardaloedd pori a gynhwysir o fewn y ddeddfwriaeth.
Mae Dave Allen, Swyddog o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad ac Ysgrifennydd CCPSH dros Droseddau Da Byw, yn gobeithio y gwnaiff gwaith ei dîm roi canlyniadau cadarnhaol ac y gall heddluoedd eraill fabwysiadu'r un prosesau mewn ymchwiliadau yn y dyfodol.
Dywedodd: "Ar gyfartaledd yng Ngogledd Cymru mae oddeutu 120 o ymosodiadau ar dda byw gan gŵn bob blwyddyn.
"Cyflawnir y rhan fwyaf o'r rhain gan gŵn sydd wedi dianc o'u cartrefi ac mae llawer o'r digwyddiadau hyn yn cynnwys ymosodiadau ar ddefaid.
"Bob blwyddyn rwyf yn gweld digwyddiadau lle mae ffermwyr yn colli miloedd o bunnoedd o'u bywoliaeth ar ôl dioddef ymosodiad ar dda byw.
"Ond pasiwyd y ddeddfwriaeth bresennol yn 1953 ac mae'n adlewyrchu'n wael ar ffermio modern a thechnegau'r heddlu.
"Er enghraifft, rhaid i'r heddlu ddychwelyd ci a amheuir o fod wedi ymosod i'r perchennog os adnabyddir un. Nid yw anifeiliaid fel alpacaod yn cael eu cynnwys o dan Ddeddf 1953.
"Gobeithir y bydd y grymoedd DNA a thechnegau fforensig newydd sy'n cael eu hymchwilio yn y prosiect yn caniatáu cymhariaeth uniongyrchol gyda man a lle trosedd a chi a allai fod, er enghraifft, wedi cael ei weld yn gadael y fan a'r lle.
"Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf 1953, gall adnabod y ci o dan sylw fod yn anodd yn yr amgylchiadau hynny. Felly, dros y 12 mis diwethaf, mae swyddogion o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad wedi casglu sawl sampl swab gan dda byw sydd wedi'u hymosod gan gŵn.
"Fodd bynnag, nid ydy'r swabiau hyn yn dderbyniol fel tystiolaeth yn y llys, gan nad oes y fath gyfraith mewn lle eto.
"Ond drwy eu cyflwyno i'r tîm ymchwil fforensig, gallent hogi technegau er mwyn ynysu DNA'r ci, sydd yn y pen draw yn gwella ein siawns o olrhain y perchnogion sy'n gyfrifol.
"Gall hyn yna roi'r llwyfan i wyddoniaeth ac i ganllawiau’r heddlu fod mewn lle pan ddaw'r Ddeddf newydd yn gyfraith.
"Mae hwn yn brosiect cyffrous ac yn un sydd heb ei wneud yn unman arall yn y DU o'r blaen.
"Yn y pen draw, rydym yn gobeithio y bydd y canlyniadau o'r astudiaeth hon yn llwyddiannus ac yn arwain at heddluoedd yn mabwysiadu'r ymdriniaeth newydd hon.
"Rydym yn gobeithio y gellir atgynhyrchu'r technegau hyn a'u cyflwyno i droseddau anifeiliaid eraill fel adnabod cŵn sydd ynghlwm mewn baetio moch daear a throseddau potsio."
Mae ymdrechion i sefydlu'r ffordd orau o echdynnu DNA gan dda byw yn parhau'n flaenoriaeth wrth i'r prosiect fynd i'w ail gyfnod.
Gwnaeth swyddogion o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad fynd i weithdy'n ddiweddar o dan arweiniad Dr Nick Dawnay a Dr Suzzanne McColl o Brifysgol John Moores Lerpwl, arbenigwyr fforenseg moleciwlaidd.
Rhoddodd Dr Dawnay drosolwg o'r gwaith a ymgymerwyd hyd yma, gyda thrafodaethau pellach ynghylch effeithiolrwydd swabio yn hytrach na dulliau eraill.
Gwelodd sesiynau ymarferol y swyddogion yn ceisio technegau 'mesur', a oedd yn cynnwys cymryd samplau ffug o ddeunydd gan ddefnyddio stribedi asetyn.
Cafodd swyddogion ganllawiau hefyd ar ddulliau samplo ac fe'u cynghorwyd ar y safleoedd optimaidd lle i gael DNA ci gan anifail sydd wedi cael ei ymosod arno.
Bellach, mae angen ymchwil gwyddonol pellach er mwyn dilysu ei weithrediad ehangach, gyda samplau a gyflwynwyd bellach fod i gynyddu wrth i'r prosiect fynd i'w gyfnod nesaf.