Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:20 17/10/2022
Mae dau gi bach newydd wedi ymuno â Chŵn Heddlu’r Gynghrair fel cŵn datgelu y dyfodol.
Mae’r sbaengwn bach, sef y brawd a chwaer Ted a Meg, wedi cael eu rhoi i’r heddlu gan Beverly Rogers o Coed y Celyn Cocker Spaniels yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Unwaith y byddant wedi cael eu hyfforddi, mi fydd y cŵn yn chwarae rhan bwysig yn ein hymdrechion i warchod cymunedau bregus ar draws Swydd Gaer a Gogledd Cymru.
Dywedodd y Rhingyll Colin Jones o’r Gynghrair: “Gwnaeth Beverly, sy’n meithrin a gweithio cŵn ei hun, gysylltu hefo ni nôl ym mis Mawrth, yn gofyn i gael rhoi ci bach i’r heddlu yn y dyfodol agos, ond mae cael dau fel rhodd yn wych.
“Gan fod rhieni’r cŵn bach yn gŵn gweithio, mi fydd datblygu ac addasu’r cŵn ar gyfer gwaith yr heddlu yn brofiad naturiol iddynt – yn wyth wythnos oed mae’r cŵn bach yn arddangos yr ysfa i chwilio a gweithio yn barod.”
Dywedodd yr Arolygydd Sam Lovatt: “Rydym yn edrych ar ddatblygu’r uned gŵn drwy ddatblygu’r sgiliau a’r gwasanaeth rydym yn eu cynnig i’n cydweithwyr, drwy eu cynorthwyo i fynd ati i wynebu’r heriau mae plismona yn eu gweld heddiw.
“Ar draws y Deyrnas Unedig, mae cŵn chwilio’r heddlu yn cael eu defnyddio er mwyn chwilio am pob math o dargedau sy’n peryglu cymunedau bregus. Mi fydd rhodd hynod o garedig Beverly yn ein caniatáu i ddatblygu cynlluniau, er mwyn diogelu Gogledd Cymru a Swydd Gaer.”
Gallwch ddilyn helyntion y cŵn bach dros y misoedd nesaf drwy ddilyn y Gynghrair ar y cyfryngau cymdeithasol drwy @ChNWPoliceDogs.