Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O ran anrhefn diwrnod gêm a ddigwyddodd yn ystod gêm CCPD Wrecsam yn Oldham Athletic fis diwethaf, mae Heddlu Gogledd Cymru'n dymuno rhoi'r diweddariad canlynol.
Gwnaed un arestiad ar ddeg yn gysylltiedig ag anrhefn gan swyddogion Heddlu Manceinion Fwyaf yn dilyn gêm o’r Gynghrair Genedlaethol yn Boundary Park ar 1 Hydref.
Lansiwyd ymchwiliad ar unwaith wedi hynny, gyda Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi cefnogaeth lawn i ymholiadau Heddlu Manceinion Fwyaf.
Mae ymdrechion i adnabod pwy oedd yn gyfrifol yn parhau, gyda ffilm CCC a thystiolaeth arall yn cael ei adolygu gan swyddogion ymchwilio.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dymuno pwysleisio y bydd unrhyw un a amheuir o fod yn gysylltiedig â'r anrhefn hon yn cael eu cadw gan swyddogion ac o bosib yn cael eu gwahardd rhag mynd i'r cae os ydynt yn dod i gem Cwpan yr FA ddydd Sul rhwng y timau ar y Cae Ras.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Mark Williams: "Roedd y golygfeydd treisgar a welwyd fis diwethaf a oedd yn cynnwys lleiafrif o gefnogwyr Wrecsam ac Oldham yn annerbyniol.
"Ar ddiwrnod o achos dathlu i fod i Wrecsam, gwnaeth nifer fechan o gefnogwyr a oedd gyda'r bwriad o fod yn dreisgar faeddu buddugoliaeth ac enw da eu clwb.
"Mae ein cydweithwyr yn Heddlu Manceinion Fwyaf yn parhau i ymchwilio'r digwyddiad hwn yn llawn. Bydd y rhai a oedd yn gysylltiedig, ac a wnaeth osgoi cael eu harestion, yn cael eu hadnabod yn fuan.
"Fel yr amlinellwyd o'r blaen, mae adnoddau plismona ar ddiwrnod gem wedi cynyddu ar gyfer gem Cwpan yr FA ddydd Sul. Diogelwch cefnogwyr ydy'r flaenoriaeth bwysicaf.
"Mae fy swyddogion wedi derbyn tystiolaeth CCC a byddant yn mynd ati i geisio adnabod ac arestio troseddwyr sydd efallai'n penderfynu dod i'r gêm ddydd Sul.
"Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda CCPD Wrecsam, ac rydym yn gwybod fod y mwyafrif o gefnogwyr yn gaffaeliad i'r clwb.
"Rydym o’r un farn na oddefir anrhefn a thrais o unrhyw fath. Fe wnawn geisio ei ddileu pan mae'n digwydd."