Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi rhwng 5 ac 18 oed?
A hoffech chi a’ch ffrindiau gael cyfle i ennill gwobrau gwerth hyd at £100 yr un?
Ydych chi’n rhan o glwb a fyddai’n hoffi ennill gwobr ariannol hyd at £750 ar gyfer eich grŵp?
Mae Heddlu Gogledd Cymru, ar y cyd hefo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, wedi lansio Her Ymgyrch Bang – sef cyfle i blant a phobl ifanc gwblhau prosiect sy’n mynd i helpu wella eu cymuned.
Gyda Chalan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn agosáu, mae’r ddau wasanaeth unwaith eto yn cydweithio er mwyn sicrhau bod y dathliadau yn ddiogel a phleserus i bawb.
Gall prosiectau edrych ar faterion megis hybu diogelwch y ffyrdd neu sut gall rhywbeth gael ei wella yn eich cymuned. Gellir hefyd edrych ar faterion megis ardaloedd ddiffaith er mwyn atal tanau neu ddiogelu aelodau bregus o’r gymuned yn ystod cyfnod Ymgyrch Bang.
Dywedodd PC Melanie Cartledge-Davis, Swyddog Ymrwymiad Cymunedol Ieuenctid Heddlu Gogledd Cymru: “Mae'r amser hwn o'r flwyddyn yn brysur yn draddodiadol i'r holl wasanaethau brys, gyda lleiafrif bach o bobl yn defnyddio Noson Calan Gaeaf a Thân Gwyllt i gyflawni Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gan roi eu hunain a phobl eraill mewn perygl o anaf.
“Drwy lansio’r Her yma rydym yn gobeithio y bydd plant a phobl ifanc yn cael eu hysbrydoli i feddwl am ffyrdd o wella eu cymunedau, ac mae hefyd yn gyfle gwych i gynyddu’r cyswllt cadarnhaol rhwng yr heddlu a phobl fanc.
“Mae hwn yn syniad gwych iddynt gael at ei gilydd hefo ffrindiau er mwyn cynorthwyo yn eu hardal leol.
“Rydym yn edrych ymlaen yn ofnadwy at gael gweld eu syniadau a’r effaith y byddent yn ei gael yn y gymuned.”
Dywedodd Jane Honey, Rheolwr Diogelwch Cymunedol a Lleihau Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Hoffwn ni weld gymaint o bobl ag sy’n bosib yn cymryd rhan yn yr her arbennig yma ac rydym yn edrych ymlaen at gael clywed am y prosiectau.
“Mae ymgyrchoedd arloesol fel hyn yn ffordd dda o drosglwyddo ein negeseuon diogelwch Calan Gaeaf a Tân Gwyllt i bobl ifanc – yn helpu sicrhau y gall pawb fwynhau’r cyfnod mewn modd diogel.”
Rhennir yr her yn ddwy:
Her Tîm:
Her Grŵp:
Mae rhagor o wybodaeth a manylion ar sut i gymryd rhan ar gael yma (linc)
Anogir defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol i’n tagio ni mewn unrhyw negeseuon drwy ddefnyddio #HerYmBang2022. Peidiwch ag anghofio cynnwys enw eich tîm ar y negeseuon.