Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:18 04/11/2022
Heddlu Gogledd Cymru yn croesawu'r Prif Gwnstabl newydd, Amanda Blakeman.
Fel rhan o'i diwrnod cyntaf yn y rôl, mi wnaeth y Prif Gwnstabl ymweld â'r ystafell reoli yn Llanelwy ble gwelodd ganolbwynt yr heddlu'n gweithredu.
Dydd Mawrth, mi wnaeth hi ymweld â swyddogion yn Wrecsam i drafod galw ac atal troseddau yn yr ardal, cyn gyfarfod â’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, Nicole Jacobs, hefo Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a chlywed am y gwaith sy'n cael ei wneud yn y maes yn ardal Wrecsam.
Ar ôl treulio peth amser ym Mhencadlys Bae Colwyn ar Dydd Mercher, teithiodd i gwrdd â thimau plismona yng Nghaernarfon, Bangor, Llandudno ar Dydd Iau, cyn dod â'i hwythnos i ben yn Dolgellau i gwblhau ei thaith.
Wrth adlewyrchu ar ei hwythnos gyntaf, dywedodd y PG Amanda Blakeman: "Mae'n fraint ac yn bleser nid yn unig i fod wedi dechrau fy rôl newydd fel Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ond i fod y ferch gyntaf i wasanaethau pobl Gogledd Cymru.
"Yr wythnos hon, rwyf wedi cael y cyfle i gwrdd â swyddogion a staff ymroddgar a gweithgar, ac rwyf yn edrych ymlaen at arwain am y pum mlynedd nesaf."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf wrth fy modd i groesawu Amanda Blakeman wrth iddi ddechrau ei rôl newydd fel Prif Gwnstabl Gogledd Cymru.
"Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi ag uwch swyddogion yr Heddlu i gyflenwi ar y blaenoriaethau yn fy nghynllun Heddlu a Throsedd, gan ganolbwyntio ar gynyddu gwelededd a gwella perfformiad.
“Mae Gogledd Cymru yn ardal y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddi a dw i'n siŵr y bydd y Prif Gwnstabl newydd a mi yn gweithio gyda'n gilydd mewn ffordd bositif ac adeiladol i’w wneud yn le mwy diogel ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd."
Dechreuodd y Prif Gwnstabl ei gyrfa gyda Heddlu Gorllewin Mercia yn 1992 ac mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi. Treuliodd 11 mlynedd cyntaf ei gwasanaeth yn magu profiad a gwybodaeth amhrisiadwy ledled amrywiol rolau fel swyddog heddlu. Yn 2003 cafodd ei dyrchafu i fod yn rhingyll. Ers hynny, ledled sawl rheng, mae wedi arwain wrth gyflwyno gwasanaethau hanfodol i gymunedau.
Mae wedi bod yn gyfrifol am swyddogaethau cudd-wybodaeth a rhagweithiol. Mae wedi bod yn Uwch Swyddog Ymchwilio fel rhan o Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig yr Heddlu.
Yn 2008, wedi cael secondiad i Uned Cudd-wybodaeth Ranbarthol Gorllewin Canolbarth Lloegr, fe arweiniodd ddatblygiad y prosesau hanfodol ynghylch nodi ac aflonyddu Grwpiau Trosedd Trefnedig.
Ar ben hyn, mae wedi arwain ymgyrchoedd plismona ar lefel leol fel Pennaeth Ardal Plismona Lleol.
Mae hefyd wedi bod yn Bennaeth Gwarchod y Cyhoedd a Phennaeth Cymorth Gweithredol i Heddlu Gorllewin Mercia a Heddlu Swydd Warwick. Mae wedi bod yn Bennaeth Drylliau Tanio Tactegol ac mae bellach yn Bennaeth Drylliau Tanio Strategol Arbenigol.
Mae gan Amanda radd baglor mewn Gwyddoniaeth gydag Anrhydedd mewn Trosedd a Throseddeg.
Penodwyd Amanda fel Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Mercia ym mis Chwefror 2017. Roedd wedi bod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Plismona Lleol, ers mis Hydref 2014, i Heddlu Swydd Warwick a Heddlu Gorllewin Mercia.
Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Gwent yn 2019.