Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwirfoddolwr gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi ennill gwobr am ei chyfraniad i blismona mewn seremoni wobrwyo genedlaethol ar gyfer gwirfoddolwyr yr heddlu.
Enillodd Helen Lacey ‘ Wobr Gwirfoddoli Mewn Partneriaeth’ yng Ngwobrwyon yr Arglwydd Ferrers am ei gwaith yn cefnogi cymunedau gyda throseddau yn ymwneud â cheffylau a throseddau cefn gwlad yng nghymunedau gwledig yn y gogledd.
Mae'r wobr yn cydnabod gwirfoddolwyr sydd wedi dangos cyfraniad sylweddol i weithio gydag eraill mewn partneriaeth er lles eu cymunedau.
Y Swyddfa Gartref sy'n trefnu'r seremoni yn flynyddol ac fe'i chynhelir yn Lancaster House yn Llundain er mwyn dathlu swyddogion gwirfoddol a gwirfoddolwyr eraill sy'n cynorthwyo plismona.
Cyflwynwyd y gwobrau gan y Gweinidog Plismona Jeremy Quinn a'r Ysgrifennydd Parhaol Mathew Rycroft.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Richard Debicki: “Llongyfarchiadau i Helen sydd wedi derbyn Gwobr yr Arglwydd Ferrers am ei gwaith rhagorol yn ein cymunedau yn atal troseddau ac yn helpu dioddefwyr mewn ffyrdd dyfeisgar, mae'n haeddu cydnabyddiaeth yng Ngwobrau'r Arglwydd Ferrer.
“Mae gwirfoddolwyr yr heddlu yn aelodau gwerthfawr o'r gymuned blismona ac rwyf yn diolch i Helen am y gwahaniaeth mae wedi gwneud yma yng Ngogledd Cymru."
Ychwanegodd Cydlynydd Plismona Dinasyddion mewn Plismona, Poppy Hadfield-Jones: “Mae Helen yn wirfoddolwr ymroddgar, dyfeisgar a rhagorol.
“Mae Helen yn rhoi gwasanaeth ardderchog i'r cymunedau gwledig ac i'r maes ceffylau ar draws y gogledd. Hi yw canolbwynt Gwarchod Ceffylau ac mae hi yno ble mae'r gymuned ei hangen hi fwyaf.
“Dro ar ôl tro mae Helen wedi gwneud gwahaniaeth ac rwyf yn falch iawn ohoni ac mae'n enillydd teilwng o Wobr yr Arglwydd Ferrers am Wirfoddoli Mewn Partneriaeth.
Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Helen Lacey, sydd hefyd yn gydlynydd elusen Cynllun Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru: “Roedd hi'n anrhydedd derbyn y wobr hon, sy'n cydnabod fy ngwaith yn cefnogi cymunedau yng Ngogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru."
Ewch i wefan Cynllun Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru i gael rhagor o wybodaeth: Home (northwaleshorsewatch.co.uk)