Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Uned Gŵn Cynghrair Heddluoedd Swydd Gaer a Gogledd Cymru wedi croesawu April y ci heddlu yn dilyn cwblhau rhaglen hyfforddiant lem am chwe wythnos sydd wedi newid y ffordd mae troseddau rhywiol yn cael eu hymchwilio.
Wedi llwyddo cymhwyso fel ci chwilio man a lle trosedd rywiol, gyda chymorth ei thriniwr PC Steve Gunn, mae April bellach yn un ond tri chi yn y DU sydd wedi'i hyfforddi i ganfod hylif semen yn unig, a wnaiff gynorthwyo i roi mwy o droseddwyr rhywiol yn y carchar.
Mae'r hyfforddiant yn rhan o brosiect cŵn chwilio fforensig hynod lwyddiannus, wedi'i arloesi gan Heddlu Swydd Derby a'i ddatblygu gan ei adran gŵn ac Ymchwilwyr Mannau a Lleoedd Trosedd.
Mae April, sy'n Labrador Melyn 15 mis oed, rŵan yn gallu dod o hyd i hylif semen bach heb gael eu denu gan drywyddion eraill. Mae ei thrwyn mor fain y gall ddod o hyd i 0.016ml o semen, weithiau flynyddoedd ar ôl iddo gael ei ollwng.
O fewn 36 awr o ddychwelyd o'u hyfforddiant, rhoddwyd PC Gunn ac April ar brawf ar ôl cael cais i gynorthwyo gydag archwilio man a lle yn Swydd Gaer.Roedd yn dilyn honiad o ymosodiad rhywiol ar ferch ifanc.
Dywedodd y Prif Arolygydd Simon Newell, Pennaeth Plismona Cynghrair sy'n gyfrifol am Blismona Arfog a Chŵn Heddlu Swydd Gaer a Gogledd Cymru: "Mae hon yn enghraifft gynnar o sut bydd cyplysu April a PC Steve Gunn yn gaffaeliad mawr i'r Gynghrair. Bydd yn cynorthwyo Swydd Gaer a Gogledd Cymru erlyn rheibwyr rhywiol a diogelu dioddefwyr.
"Mae'n dangos sut mae sgiliau'r cŵn a'u trinwyr yn chwarae rôl hynod bwysig yn ystod ymchwiliadau i droseddau rhywiol, mewn mannau lle na fyddai dulliau traddodiadol yn gweithio.
"Mae cyflwyno'r gallu arbenigol yma gan gi chwilio o fewn y Gynghrair yn rhoi cyfleoedd cyffrous i ddangos sut allwn ni gyfrannu tuag at ymdrin â blaenoriaethau'r Heddlu."
Mae Uned Gŵn y Gynghrair, a sefydlwyd yn 2015, yn rhoi'r gallu i ymateb yn ddynamig i ddigwyddiadau sydd angen ymateb gan gŵn heddlu ledled Swydd Gaer a Gogledd Cymru.
Dywedodd PC Dean Allen, prif hyfforddwr Swydd Derby: "Mae'n wych croesawu April i'r tîm. Mae eu hyfforddiant fel cŵn hylif semen wedi bod yn hynod drwyadl er mwyn profi eu gallu fel y gallent gynorthwyo Ymchwilwyr Mannau a Lleoedd Trosedd.
"Yn y chwe wythnos diwethaf maent wedi dysgu nodi a chwilio am y trywydd mewn sawl senario rydym wedi'u creu ar eu cyfer: o dan do, yn yr awyr agored, mewn cerbydau, ar laswellt, tarmac, a deunyddiau fel dillad gwely a dillad.
"Y canlyniad ydy gallwn ddal troseddwyr rhywiol nad ydym fel arall wedi medru gwneud oherwydd natur anodd iawn rhai mannau a lleoedd troseddau rhywiol.
"Gall y cŵn nodi presenoldeb hylif semen mewn mannu lle na all citiau traddodiadol ddod o hyd iddynt. Unwaith maent wedi nodi'r trywydd, gellir anfon y darn hwnnw o ddeunydd neu lystyfiant a gellir cael proffil DNA. Bydd hyn yn arwain at fwy o erlyniadau a throseddwyr yn y carchar."