Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos hon (14-18 Tachwedd) ydy #WythnosGenedlaetholDiogelu, sy'n anelu hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch mathau o gam-drin, er mwyn egluro lle i gael cymorth a chyngor ar sut i'w atal rhag digwydd.
Drwy gydol yr wythnos, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar amlygu arwyddion cam-drin oedolion bregus.
Byddwn yn rhannu manylion asiantaethau cymorth sydd wedi ymrwymo i ddiogelu aelodau mwyaf bregus ein cymunedau.
Bob dydd, mae oedolion bregus yn cael eu brifo, eu bwlio, eu lladrata, eu bygwth a'u hesgeuluso.
Os ydy'r unigolyn hwnnw'n hen, yn anabl, gyda nam, neu â phroblem iechyd meddwl, efallai gwnânt ei gweld hi'n anodd atal yr hyn sy'n digwydd.
Yn amlwg, mae'r mathau hyn o ymddygiad yn anghywir. Os ydy cam-drin digwydd, fe wnawn ymchwilio a chanfod ffyrdd i'w atal. Fe wnawn sicrhau fod yr un sy'n cael ei effeithio yn cael ei roi yng nghanol sut mae'n cael ei ymdrin.
Weithiau mae'r un sy'n achosi niwed yn aelod o'r teulu, neu'n rhywun sy'n cael eu talu i ofalu amdanynt. Weithiau ystyrir yr unigolyn fel ffrind.
Gall achosion o gam-drin ddigwydd yn eu cartref eu hunain, mewn cartref gofal, ysbyty, neu goleg. Gall ddigwydd mewn lle cymdeithasol, fel tafarn neu barc.
Mathau o Gam-drin
Mae llawer o fathau o gam-drin, gan gynnwys:
Pwy all gam-drin?
Gall rhywun gam-drin – ffrind, perthynas, cymydog, gofalwr, neu rywun sy'n darparu gwasanaeth cymorth. Nid ond mewn cartrefi neu gartrefi gofal mae cam-drin yn digwydd. Gall ddigwydd yn unrhyw le, fel ar y stryd, mewn parc neu mewn canolfan hamdden er enghraifft.
Yr arwyddion i chwilio amdanynt yw:
Os ydych yn poeni am rywun a buasech yn hoffi cymorth, peidiwch â chadw'n dawel.
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael.
Mewn argyfwng, cysylltwch a'r heddlu drwy ffonio 999. Os nad yw'n argyfwng ond buasech yn hoffi siarad gyda'r heddlu, ffoniwch 101 neu un o'r llinellau cymorth a argymhellir isod.
Action on Elder Abuse 0808 8088 141
DASU Gogledd Cymru Ewch ar y wefan am y llinell gymorth leol – Cartref » Gogledd Cymru
Respect 0808 8024040
Men’s advice line 0808 8010327
Action Fraud https://www.actionfraud.police.uk/
Hourglass 0808 808 8141
Age UK 0800 678 1602
Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru: 0300 3030 159
Crimestoppers 0800 555 111
BAWSO 0800 731 8147
Llinell gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio: 08000 121 700