Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae modurwr wedi'i euogfarnu yn dilyn gwrthdrawiad gyda cheffyl a beiciwr yn ei arddegau yn Sir y Fflint.
Ymddangosodd Alex Martin, 33, Pen y Maes Avenue, Y Rhyl, ger bron Llys Ynadon yr Wyddgrug ar ddydd Llun, 17 Hydref wedi'i gyhuddo o yrru heb ofal a sylw dyledus.
Fe'i cafwyd yn euog o'r digwyddiad ar St Asaph Road, Lloc, Sir y Fflint - ffordd 30mya - am oddeutu 8yb ar 24 Chwefror, yn gynharach eleni.
Gwnaeth y beiciwr 13 oed, a oedd yn gwisgo siaced lachar pan oedd allan gyda'i merlen ar y pryd, ddioddef mân anafiadau oherwydd y gwrthdrawiad.
Fodd bynnag, yn anffodus bu'n rhaid rhoi'r ceffyl i lawr am rai wythnosau wedyn yn dilyn ysigiad, a gredir ei fod wedi'i achosi pan wnaeth y ceffyl ddianc mewn ymateb i'r gwrthdrawiad.
Cafodd Martin chwe phwynt cosb ar ei drwydded. Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £250, costau o £620 i Wasanaeth Erlyn y Goron a swm ychwanegol o £34.
Daeth y digwyddiad wythnosau ar ôl i newidiadau gael eu gwneud i reolau'r ffordd fawr ym mis Ionawr. Mae'n cynnwys cyngor i yrwyr fynd heibio ceffylau ar ddim mwy na 10mya a chadw pellter o ddau fetr o leiaf.
Dywedodd Helen Lacey, Gwirfoddolwr i'r Gwasanaeth Heddlu, a chydlynydd i elusen Cynllun Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru: "Rwyf yn croesawu canlyniad yr achos hwn, sy'n anfon neges glir fod digwyddiadau o'r fel hyn yn cael eu cymryd o ddifrif gan y llysoedd.
"Yn dilyn newidiadau i reolau'r ffordd hon yn gynharach eleni, mae marchogion bellach yn cael eu hystyried yr un fath â seiclwyr yn hierarchaeth newydd defnyddwyr y ffordd. Maent wedi'u llunio i warchod y bobl fwyaf bregus a gwella diogelwch i geffylau a'u trinwyr.
"Os ydych yn gweld ceffyl ar y ffordd, dylech arafu i 10mya, bod yn amyneddgar a mynd heibio'r ceffyl gyda digon o le ac yn araf, gyda bwlch dau fetr o leiaf, cyn gyrru'n araf i ffwrdd.
"Bydd gyrru'n ofalus, yn enwedig ar droadau ar ffyrdd cul, yn eich cynorthwyo chi weld ceffylau a marchogion mewn pryd ac ymateb yn ddiogel.
"Bydd cyllid diweddar gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella arwyddion ffordd mewn llecynnau ledled Gogledd Cymru gobeithio'n gwella diogelwch ar y ffyrdd i farchogion sydd allan yn marchogaeth yn y gymuned."
Dywedodd Alan Hiscox, Cyfarwyddwr Diogelwch Cymdeithas Geffylau Prydain: "Mae hwn yn ganlyniad gwych i'r marchog ifanc ac yn gam cadarnhaol tuag at wella diogelwch ffordd i farchogion.
Fodd bynnag, mae'r nifer o ddigwyddiadau ar y ffordd gyda cheffylau yn llawer rhy uchel. Yng Nghymru, hysbyswyd y Gymdeithas am gyfanswm o 237 digwyddiad yn ystod 2021. Mae hyn yn gynnydd o 234% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.”
Yn gynharach eleni, cynhaliwyd menter diogelwch ffordd ar y cyd wedi'i hanelu at godi ymwybyddiaeth o newidiadau diweddar i reolau'r ffordd fawr ynghylch mynd heibio ceffylau gan Heddlu Gogledd Cymru mewn partneriaeth gyda Chynllun Gwarchod Ceffylau Gogledd Cymru a Chymdeithas Ceffylau Prydain.
Bu Ymgyrch Safe Pass yng Nghanolfan Farchogaeth Bridlewood yn Nhreffynnon, Sir y Fflint. Gwelwyd swyddogion o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad, Uned Plismona Ffyrdd a Diogelwch Cymunedol yn hebrwng marchogion ar y ffyrdd, wrth stopio defnyddwyr y ffordd er mwyn rhoi arweiniad a chodi ymwybyddiaeth am sut i fynd heibio ceffylau'n ddiogel.
Dywedodd Mr Hiscox: "Rydym yn parhau i annog gyrwyr i fod yn fwy ystyriol wrth fynd heibio marchogion, ynghyd a meddwl am sut maent yn edrych ar ac yn dangos empathi gyda'r ceffyl a'r marchog. Mae'n bwysig cofio fod ceffylau yn anifeiliaid ehedol a all ymateb yn sydyn pan maent yn cael eu dychryn. Gall y ceffylau mwyaf profiadol ymateb yn sydyn i rywbeth nad ydynt yn sicr ohono.
"Er mwyn sicrhau eu diogelwch, ac yn unol â newidiadau i Reolau'r Ffordd Fawr, dylai gyrwyr arafu i 10mya pan maent yn gweld ceffyl yn y ffordd. Rhaid iddynt fod yn amyneddgar a pheidio â chanu eu corn neu refio'r injan, gan oddiweddyd ond pan mae'n ddiogel gwneud, a gadael o leiaf dau fetr os yn bosibl.
"Os ydy gyrwyr yn dilyn y negeseuon ymddygiad syml hyn a bod marchogion a gyrwyr yn amyneddgar gyda'i gilydd wrth rannu'r ffyrdd, gallwn wella diogelwch ffordd ar gyfer holl ddefnyddwyr bregus. Mae hyn er mwyn atal digwyddiadau fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol."