Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma'r criw o Ogledd Cymru sydd wedi mentro ar y môr fel rhan o ras gychod yn erbyn ardaloedd heddluoedd y Gogledd Orllewin.
Gwnaeth Her y Prif Gwnstabl weld pedair llong dal yn cychwyn o Portsmouth ar ddydd Sadwrn, 22 Hydref, fel rhan o ddigwyddiad a sefydlwyd gan Serena Kennedy, Prif Gwnstabl Glannau Mersi.
Bydd y gystadleuaeth, mewn partneriaeth gyda'r Ymddiriedolaeth Ieuenctid Llongau Tal, yn gorffen yn y Royal Albert Dock yn Lerpwl ar ddydd Gwener, 28 Hydref, yn dilyn ei gohirio am ddwy flynedd oherwydd y pandemig.
Bydd yr hen gychod 72 troedfedd sydd wedi mynd ar heriau rownd y byd yn cael eu hwylio gan bedwar grŵp o bobl ifanc, sy'n cynrychioli Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Glannau Mersi, Heddlu Swydd Gaer a Heddlu Manceinion Fwyaf.
Dewiswyd y bobl ifanc gan eu bod yn haeddu hynny oherwydd eu hymrwymiad i'r gymuned neu oherwydd eu bod yn parhau i ffynnu yn yr ysgol er bywydau domestig heriol.
Gallwch ddarllen mwy am yr her yma: Naw o bobl ifanc o Ogledd Cymru yn hwylio mewn ras gychod fel rhan o Her y Prif Gwnstabl | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Meet the team representing North Wales Police:
Enw: Josh Taylor
Rôl: Arweinydd Tîm y Criw
Oed: 19
Bywgraffiad: Rwyf yn arweinydd cadetiaid ac yn swyddog gwirfoddol, ac yn astudio hefyd am radd Plismona Proffesiynol yn y brifysgol.
Sgiliau: Gweithio gyda phobl ifanc / Camu allan o'r lle rwyf yn gyfforddus a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Bydd yr her yn gyfle gwych i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd, wrth gynorthwyo i roi cyfleoedd amhrisiadwy i bobl ifanc.
Enw: Poppy Hadfield-Jones
Rôl: Arweinydd Tîm y Criw
Bywgraffiad: Rwyf yn ffrind dibynadwy, tosturiol a gofalgar sydd bob amser yn awyddus i gynorthwyo pobl eraill. Rwyf wedi bod yn arweinydd tîm Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Her y Prif Gwnstabl ers 2019.
Oherwydd y pandemig, rydym yn hwylio o'r diwedd yn 2022. Mae wedi bod yn eithaf her, ond rwyf yn hyderus fod ein tîm cryf a galluog yn gallu hwylio tuag at lwyddiant. Amdani Gymru!
Enw: Sebastian Mclean
Rôl: Aelod o'r Criw
Oed: 16
Bywgraffiad: Rwyf yn hynod ddistaw, ond rwyf yn gweithio'n galed bob amser. Rwyf yn dawel, parchus a chwrtais.
Mae Her y Prif Gwnstabl yn gyfle gwych i brofi rhywbeth newydd. Rwyf yn gobeithio gwneud ffrindiau newydd, gwella fy hyder a gwella fy sgiliau cyfathrebu.
Enw: Rhys Mollison-White
Rôl: Aelod o'r Criw
Oed: 17
Bywgraffiad: Rwyf yn garismatig, hyderus ac yn ddysgwr sy'n addasu. Rwyf yn gydweithredwr cryf ac yn gallu rhoi hwb i'n cyfleoedd am lwyddiant. Fel rhywun sy'n hoffi mynd i'r gampfa, rwyf yn gallu darparu cryfder ar gyfer gorchwylion mwy corfforol.
Rwyf eisiau dangos, waeth beth rydych wedi mynd drwyddo, gallwch brofi i'r byd nad oes rhaid i chi ddechrau a darfod yr un ffordd.
Enw: Jorja Houghton
Rôl: Aelod o'r Criw
Oed: 17
Bywgraffiad: Bydd hwn yn brofiad unigryw lle byddaf yn cael gweithio fel rhan o dîm a datblygu sgiliau newydd. Rwyf yn gobeithio gwneud ffrindiau newydd a llawer o atgofion newydd.
Rwyf yn dymuno pob lwc i bob aelod o'r tîm ac rwyf yn falch o gynrychioli Heddlu Gogledd Cymru.
Enw: Jessica Wild
Rôl: Aelod o'r Criw
Oed: 16
Bywgraffiad: Rwyf yn unigolyn rhadlon a chystadleuol sydd bob amser yn barod am her. Rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan o dîm ac rwyf yn edrych ymlaen at fagu sgiliau a phrofiadau newydd.
Enw: Olivia George
Rôl: Aelod o'r Criw
Oed: 16
Bywgraffiad: Rwyf yn ddiwyd a brwdfrydig. Rwyf yn edrych ymlaen at Her y Prif Gwnstabl gan fy mod yn gallu rhoi fy sgiliau cyfathrebu effeithiol ar waith a gweithio fel rhan o dîm. Rwyf yn gyfeillgar a rhadlon a gwnaf fwynhau dysgu pethau newydd wrth ddod i adnabod aelodau eraill o'r criw newydd.
Enw: Iestyn James
Rôl: Aelod o'r Criw
Oed: 15
Bywgraffiad: Rwyf yn meddwl y byddaf yn dod â beiddgarwch ac ysbryd cystadleuol i Her y Prif Gwnstabl. Rwyf hefyd yn meddwl y bydd yn hwyl fawr ac yn gyfle unigryw i fagu profiad a sgiliau newydd.
Enw: Seren Davies
Rôl: Aelod o'r Criw
Oed: 15
Bywgraffiad: Rwyf yn gyfeillgar, siaradus ac yn gydweithredwr gwych. Rwyf yn edrych ymlaen at hwylio'r moroedd mawr, yn gweld mannau anghyfarwydd a datblygu sgiliau newydd.
Rwyf yn mynd â phethau ychwanegol hefo mi, rhag ofn!
Enw: Ewan Harper-Blair
Rôl: Aelod o'r Criw
Oed: 15
Bywgraffiad: Rwyf yn unigolyn cymdeithasol, gofalgar a diwyd sy'n hoffi coginio a chicfocsio. Rwyf eisiau gwneud Her y Prif Gwnstabl oherwydd rwyf yn meddwl y bydd yn gyfle na ddylid ei golli.
Rwyf eisiau cyrraedd yr uchelfannau, ac bydd hwn yn gofnod da ar fy CV!