Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd mwy o swyddogion ar batrôl yng nghanol tref Wrecsam ar ddydd Sul, 6 Tachwedd fel rhan o drefniadau plismona diwrnod gêm.
Bydd gêm rownd gyntaf Cwpan yr FA rhwng CPD Wrecsam yn erbyn Oldham Athletic yn digwydd ar ddydd Sul, 6 Tachwedd.
Bydd y gêm yn dechrau am 12:30yh a disgwylir torf enfawr, gyda'r tocynnau i gyd wedi gwerthu yn y Cae Ras.
Yn dilyn anhrefn yn Oldham y tro diwethaf i'r ddau dîm gwrdd ar ddydd Sadwrn, 1 Hydref, bydd mwy o swyddogion ar ddyletswydd yn Wrecsam er mwyn sicrhau diogelwch ac i atal digwyddiadau pellach.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Mark Williams: "Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn gytûn yn eu barn ar ymddygiad cefnogwyr mewn gemau pêl-droed. Bydd cosbi llym yn digwydd yn erbyn unrhyw anhrefn yn ymwneud â phêl-droed.
“Dylai mynd i'r Cae Ras fod yn achlysur pleserus i bawb, ac mae diogelwch y cefnogwyr yn flaenoriaeth, yn enwedig pan fydd torfeydd mawr yn bresennol.
"Pan fydd anhrefn yn digwydd byddwn yn gweithio gyda'r clwb i adnabod troseddwyr, ac yn gosod Gorchymyn Diarddel o Gemau Pêl-droed (FBO) ar y rhai sy'n troseddu.
Mae 12 Gorchymyn Gwahardd Pêl-Droed wedi cael eu rhoi'r tymor hwn i gefnogwyr Wrecsam am achosi anrhefn ar ddiwrnod gêm ers dechrau'r flwyddyn.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Simon Williams: "Rydym yn gobeithio y bydd FBOs yn parhau i atal unrhyw un sy'n bwriadu achosi anhrefn. "Maent yn hynod waharddol ac maent yn sicrhau fod y rhai hynny sy'n euog o anrhefn pêl-droed yn ddigon pell o'r gêm."
"Rwyf yn annog cefnogwyr Wrecsam i gyd i barchu eu tref a'r clwb ar ddydd Sul."
Bydd y strydoedd ar gau yn yr ardaloedd o gwmpas y cae yn fuan cyn diwedd y gêm i roi cyfle i'r cefnogwyr adael y stadiwm yn ddiogel.
Bydd cae'r ffydd yn digwydd o gwmpas Ffordd yr Wyddgrug ac yn cyfyngu mynediad i gerbydau i'r cae.
Am fwy o wybodaeth ar ddiwrnod y gêm, ewch i wefan Clwb Pêl-droed Wrecsam: Y newyddion diweddaraf - Clwb pêl-droed Wrecsam