Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn swyddog heddlu a gafodd ei ddiswyddo o'r heddlu am gamymddygiad difrifol wedi colli ei hawliad mewn tribiwnlys cyflogaeth diweddar.
Canfuwyd Mohammed Lachiri yn euog o ladrad o Debenhams yn Llys y Goron Caernarfon yn 2017. Wedi hynny, wynebodd achos o gamymddwyn am roi enw a chyfeiriad ffug pan gafodd ei herio i ddechrau gan staff diogelwch a methu hysbysu'r heddlu ei bod wedi derbyn hysbysiad gwahardd gan y siop adrannol.
Honnodd Mr Lachiri, a oedd wedi bod yn swyddog am 18 mlynedd, fod yr achos o gamymddwyn yn seiliedig ar wahaniaethu, ar sail ei hil, ei grefydd ynghyd a dioddef aflonyddu gan ei reolwyr llinell ac uwch swyddogion oherwydd ei hil a'i grefydd.
Cafodd yr achosion eu diystyru yn llawn. Chafodd y tribiwnlys ddim tystiolaeth i awgrymu y byddai gweithiwr o gefndir ethnig arall neu a oedd â chredoau crefyddol gwahanol wedi cael eu trin yn wahanol o dan yr un amgylchiadau.
Ffafriodd y tribiwnlys dystiolaeth yr heddlu yn hytrach nac un Mr Lachiri. Canfu nad oedd yn eirwir yn y ffordd roedd yn rhoi ei dystiolaeth, a bod Mr Lachiri yn wirioneddol gredu fod materion wedi datblygu yn y ffordd roedd wedi'u cyflwyno. Fodd bynnag, canfu Ei Anrhydedd y Barnwr S Jenkins fod ychydig o sail i'w gredoau a bod yr hawliwr yn amharod derbyn nad oedd materion fel yr oedd yn eu gweld nhw.
Wrth siarad ar ôl y dyfarniad, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Siôn Williams o Adran Safonau Proffesiynol (ASP) yr heddlu: "Dangosodd y ffeithiau yn yr achos hwn fod rheolwyr llinell Mr Lachiri, ynghyd â swyddogion o'r ASP wedi gweithredu'n onest a chywir drwy gydol yr ymchwiliad.
"Mae'n hanfodol wrth gadw hyder yr heddlu fod yr heddlu'n ymchwilio pob achos o gamymddwyn mewn ffordd deg a thryloyw. Canfu'r Barnwr fod Mr Lachiri wedi cael ei ymdrin yn y fath ffordd ym mhob achos. Nid oedd ei hil na'i grefydd fyth yn ffactor yn y broses ddisgyblu."