Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:41 02/11/2022
Yn dilyn cyfres o ladradau lle cafodd eitemau o werth mawr eu dwyn yn ardal De Gwynedd, rydym yn annog y cyhoedd i gymryd camau ychwanegol er mwyn gwarchod eu heiddo gwerthfawr rhag lladron.
Mae sawl lladrad wedi bod yn y ddau fis diwethaf sydd wedi digwydd yn bennaf ar ffermydd ac iardiau cwmnïau, gyda cherbydau ac offer amaethyddol yn cael eu targedu.
Dywedodd PC Jamie Aston, o Dîm Trosedd Blaenoriaethol y Gorllewin: “Rydym wedi gweld cynnydd mewn lladradau lle dwynwyd eitemau o werth mawr o leoliadau gwledig, fel ffermydd, yn y ddau fis diwethaf.
“O ganlyniad i’r ohebiaeth ganlynol gydag Undeb y Ffermwyr, rydym yn gwrando ar ofidion ein cymunedau ac rydym wedi cynyddu’r patrolau mewn ardaloedd gwledig.
“Buaswn yn annog unrhyw un gyda beic pedair olwyn, trelar, Land Rover ac offer eraill o werth mawr i gymryd pob cam rhesymol er mwyn diogelu eu meddiannau.
“Gall sicrhau gwirio bod eitemau o werth mawr yn cael eu cloi mewn lleoliadau diogel dros nos a chadw allweddi cerbydau ar wahân i'r cerbyd fod yn ddigon i atal lladrad rhag digwydd.”
Isod mae mwy o gamau a ellir eu cymryd i atal lladrad:
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am ladradau eitemau gwerth mawr yn Ne Gwynedd, cysylltwch gyda ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101. Gallwch hefyd hysbysu am drosedd yn anhysbys drwy Crimestoppers.
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau yn eich ardal gallwch gofrestru ar y cynllun Farmwatch drwy System Rhybuddio’r Gymuned Heddlu Gogledd Cymru.
Am fwy o gyngor atal trosedd, ewch ar ein gwefan.