Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth i'r Nadolig nesáu mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd bod cynnydd mawr o dwyll yn digwydd wrth brynu a gwerthu ar Facebook.
Dros y penwythnos mae pobl wedi riportio colled o £4270 dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae'r adroddiadau yn cynnwys pobl yn talu blaendaliadau mawr neu daliadau llawn i gyfrif banciau amheus, ar gyfer nwyddau nad ydynt yn eu derbyn. Mewn un digwyddiad rhoddwyd blaendal mawr ar gyfer eitem a phan aeth y dioddefwr at y cyfeiriad i'w gasglu doedd y bobl oedrannus a oedd yn byw yn y tŷ ddim yn ymwybodol o'r peth o gwbl gan adael y dioddefwr yn waglaw.
Maent hefyd wedi cael gwybod gan broses ymgynghorol ddwys hefyd. Daeth twyllwyr i dŷ
dioddefwr i gasglu eitem yn honni eu bod wedi talu drwy ap bancio ar-lein. Rhoddwyd yr eitem i'r twyllwyr ond ni dderbyniwyd arian gan fod yr ap bancio yn un ffug.
Y neges yw byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio Facebook Marketplace gan nad oes siawns i chi gael eich digolledi os collwch eich arian. Pan fyddwch yn prynu nwyddau ceisiwch eu prynu wyneb yn wyneb gan ddefnyddio arian parod neu wasanaeth talu fel PayPal lle ceir lefel o ddiogelwch.
Os oes angen i chi riportio unrhyw dwyll, cysylltwch â Facebook i riportio'r cyfrif, y wefan Action Fraud, gwefan Heddlu Gogledd Cymru neu drwy ffonio 101.