Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos hon, cynhaliwyd dwy seremoni tyngu llw ar gyfer ein swyddogion Heddlu Bach diweddaraf.
Aeth y Prif Arolygydd Gethin Jones ac aelodau eraill o'n Timau Plismona Cymdogaethau i Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd ac Ysgol Llanfawr i gynnal seremonïau croesawu ar gyfer ein criw newydd yn yr Heddlu Bach.
Tyngodd disgyblion lw yn eu rolau newydd mewn seremoni a gyflwynodd y plant gyda'u lifrai newydd a chardiau gwarant yr Heddlu Bach.
Mae bob plentyn wedi gorfod ysgrifennu ffurflen gais a mynd i gyfweliad ffurfiol lle gofynnwyd iddynt am broblemau cymunedol ac am syniadau sut y gellid datrys problemau. Roedd yr holl blant yn anhygoel ac yn gaffaeliad i'w hysgolion.
Dywedodd PC Thomas: "Mae ein tîm yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r aelodau newydd o'n tîm. Cadwch lygad allan am yr heddlu bach yn patrolio'r ardal leol.
"Hoffem ddiolch i'r ysgolion o dan sylw am gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn."
Bydd ein trechwyr trosedd newydd sbon danlli bellach yn dewis eu blaenoriaethau plismona eu hunain ar sail yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwneud y gymuned yn lle mwy diogel i bawb. Gall problemau i'w hystyried gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhannu cyngor ar atal trosedd yn y gymuned a goryrru.
Dywedodd SCCH Nerys Williams: "Rydym yn hapus gallu croesawu dosbarth arall o heddlu bach i Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r cynllun hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc chwarae rôl wrth wneud penderfyniadau yn eu cymuned a rhoi ymdeimlad o falchder cymunedol iddynt.
"Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda'r Heddlu Bach ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw yn y gymuned."
Nod prosiect yr Heddlu Bach ydy creu cysylltiadau cadarnhaol rhwng Heddlu Gogledd Cymru ac aelodau ifanc o'r gymuned.
Pob lwc i'n heddlu bach yn eu rolau newydd.