Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:01 16/11/2022
Penderfynwyd ymestyn Gorchymyn Gwarchod Man Cyhoeddus (PSPO) ar gyfer y Stryd Fawr Bangor am dair blynedd arall.
Cytunwyd rhwng Cyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau partner bod angen i'r PSPO barhau yn yr ardal ac felly mae'r gorchymyn wedi cael ei ymestyn am 3 blynedd arall tan 30 Tachwedd 2025.
Mae'r gorchymyn yn hanfodol ar gyfer plismona'r Canol y Ddinas ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ers ei osod yn 2019 mae wedi cael effaith bositif ar drigolion lleol a busnesau ar y Stryd Fawr a'r cyffiniau.
Amodau'r Gorchymyn yw na ddylai unigolion:
Meddai Ditectif Gwnstabl Siwan Humphreys: “Mae Tîm Plismona’r ardal yn croesawu'r penderfyniad i ymestyn y PSPO am 3 blynedd arall. Bydd hyn yn cynorthwyo'r tîm wrth ymwneud ag unigolion sy'n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol parhaus ac sy'n cael effaith andwyol ar y gymuned.
“Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r Cyngor ac asiantaethau eraill i wneud Canol Dinas Bangor yn le croesawus i bawb sy'n ymweld, byw a gweithio yn y lle."
Mae torri'r PSPO yn drosedd a'r gosb yw Hysbysiad Cosb Benodol neu erlyn drwy'r Llys Ynadon.