Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:36 15/11/2022
Ym mis Mehefin 2022, gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru dderbyn adroddiad am glaf yn dianc o uned iechyd meddwl ym Modelwyddan. Dywedodd adroddiadau fod y claf yn risg hunanladdiad uchel a chodwyd pryderon yn syth ynghylch ei bregusrwydd.
Daeth PC Leanne Agius, triniwr cŵn yng Nghynghrair Cŵn Heddlu a Drylliau Tanio Swydd Gaer a Gogledd Cymru, a Flo'r ci heddlu yn sydyn i'r ardal a dechrau chwilio. Rhoddodd Flo ei thrwyn ar waith a dilyn trywydd y ferch drwy sawl cae agored cyn dod o hyd iddi'n anymwybodol a chyda chwlwm o amgylch ei gwddf.
Yn dynn ar ei sodlau roedd PC Siôn Williams a PC Lois Ashton, swyddogion ymateb o'r Rhyl a wnaeth dorri'r cwlwm yn sydyn a rhoi sylw meddygol yn syth iddi a wnaeth achub ei bywyd yn y diwedd. Aethpwyd a'r claf yn ôl i'r ysbyty er mwyn derbyn gofal gan y Tîm Iechyd Meddwl.
Dywedodd PC Agius: "Roedd hwn yn un o ganfyddiadau cadarnhaol cyntaf Flo ar ôl i ni drwyddedu fel tîm, ac rwyf mor ddiolchgar am y gydnabyddiaeth i'w gwaith caled. Fel Swyddogion Heddlu, yn anffodus rydym yn ymdrin gyda digwyddiadau fel hyn yn aml. Er, rwyf mor falch ein bod i gyd wedi gallu diogelu'r ddynes yma.
Mae'n bwysig diolch i'r staff o'r Tîm Iechyd Meddwl a oedd ar ddyletswydd y noson honno a wnaeth gofnodi'n gywir y lle roeddent wedi colli golwg o'r ddynes er mwyn rhoi man dechrau i Flo. Felly, roeddem yn gallu cyflawni'r canlyniad hwn."
Cyflwynwyd y canmoliaethau i'r swyddogion yng Nghanolfan Reoli'r Heddlu yn Llanelwy gan y Prif Uwcharolygydd Mark Williams a ddywedodd: "Mae'n anrhydedd fawr i mi allu cydnabod gwaith caled, penderfyniad ac ymrwymiad y swyddogion heddlu hyn.
"Mae swyddogion ledled y wlad yn gweithio mewn amgylchiadau anodd yn rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd. Mae'n amhosibl cydnabod y lefel hon o broffesiynoldeb bob tro, ond rydym yn ceisio gwobrwyo'r bobl hynny sy'n dangos gwasanaeth eithriadol sy'n mynd yr ail filltir.
Mae'r swyddogion (a'r ci) sy'n cael eu cydnabod heddiw wedi gwneud hynny. Ar ran Heddlu Gogledd Cymru a'r cyhoedd, hoffwn ddiolch yn ffurfiol am waith da iawn! Diolch bawb."