Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Tra bod troseddau cyllyll yn isel yng Ngogledd Cymru o gymharu â rhannau eraill o’r wlad, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ymdrin ag ymddygiad treisgar. Gwneir hyn drwy weithio’n agos gydag asiantaethau partner a sefydliadau eraill er mwyn sicrhau fod y rhanbarth yn ddiogel, ac yn teimlo’n ddiogel.
Tra bod troseddau cyllyll yn isel yng Ngogledd Cymru o gymharu â rhannau eraill o’r wlad, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ymdrin ag ymddygiad treisgar. Gwneir hyn drwy weithio’n agos gydag asiantaethau partner a sefydliadau eraill er mwyn sicrhau fod y rhanbarth yn ddiogel, ac yn teimlo’n ddiogel.
Mae Ymgyrch Sceptre, ymgyrch genedlaethol sy’n digwydd dwy waith y flwyddyn, yn cynorthwyo’r gwaith mae Heddlu Gogledd Cymru yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau bod cymunedau yn ddiogel rhag troseddau cyllyll yn eu cymuned.
Mae swyddogion yn cynnal nifer o weithgareddau gan gynnwys ymgyrchoedd penodol, ymgysylltiad ac addysg er mwyn tawelu meddwl pobl ifanc eu bod yn fwy diogel heb orfod cario cyllyll, a cherdded i ffwrdd rhag niwed.
Biniau ildio:
Fel rhan o’r ymgyrch wythnos o hyd, mae pobl yn cael eu hannog i adael cyllyll a llafnau diangen mewn biniau ildio mewn cownteri blaen gorsafoedd heddlu a rhai canolfannau ledled gogledd Cymru.
Gallwch ddod o hyd i’r biniau ildio yn y llefydd canlynol:
Gorsaf Heddlu Wrecsam
Gorsaf Heddlu yr Wyddgrug
Gorsaf Heddlu’r Rhyl
Gorsaf Heddlu Llandudno
Gorsaf Heddlu Bae Colwyn
Gorsaf Heddlu Bangor
Gorsaf Heddlu Caernarfon
Gorsaf Heddlu Caergybi
Canolfan Ailgylchu Mochdre
Canolfan Ailgylchu Abergele
Canolfan Ailgylchu Dinbych
Canolfan Ailgylchu Rhuthun
Parc Ailgylchu a Gwastraff y Rhyl
Dywedodd yr Arolygydd Wesley Williams o Hyb Atal Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud er mwyn atgyfnerthu'r neges fod cario cyllell yn annerbyniol. Ni ddaw daioni o gario un.
“Mae bob achos sy'n cynnwys cyllell â chanlyniadau i bawb sydd ynghlwm. Mae hon yn broblem rydym yn ei chymryd yn hynod ddifrifol.
"Rydym yn gweithredu'n gadarn os ceir rhywun yn meddu cyllell neu arf miniog yn anghyfreithlon ar y strydoedd. Buaswn yn eich annog i gymryd y cyfle hwn i waredu unrhyw arfau drwy fynd â nhw i unrhyw gownter blaen yn ein gorsafoedd heddlu.
“Mae cyllyll yn beryglus ac nid oes lle iddynt ar strydoedd Gogledd Cymru. Nid yw cario cyllell yn eich cadw’n ddiogel. Rydych yn peryglu eich hun drwy gario cyllell ac rydych yn fwy tebygol o gael eich niweidio mewn digwyddiad treisgar a chael eich anafu.
Ychwanegodd: "Tra mae achosion a chymhellwyr troseddau cyllyll yn gymhleth, mae ymyrraeth gynnar a gosod mesurau er mwyn ymdrin â'r gwir achosion yn gwbl hanfodol. Rydym wedi ymroi i ymdrin yn gydweithredol â mynd i'r afael â throseddau cyllyll ledled gogledd Cymru. Gwnawn barhau'r gwaith llwyddiannus gyda'n partneriaid a chymunedau sydd eisoes yn bodoli.”
“Mae gan fân-werthwyr rôl bwysig i'w chwarae wrth ymdrin â throseddau cyllyll drwy sicrhau nad yw cyllyll yn cael eu defnyddio gan y bobl anghywir. Yn ogystal â hyn, bydd swyddogion yn ymweld â siopau manwerthu lleol er mwyn cynnal "gwiriad gwybodaeth" gyda staff o ran gwerthu cyllyll a'r ymdriniaeth 'Herio 25 ID'.”
Ychwanegodd yr Arolygydd Williams: “Mae rhan fawr o waith yr heddlu allan mewn cymunedau ac ysgolion – yn addysgu pobl ifanc ar yr effeithiau mae cyllyll yn gallu cael ei gael nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd a chymunedau. Bydd hyn drwy raglenni addysg fel SchoolBeat. Bydd y gwaith yma yn parhau drwy’r wythnos hefo Swyddogion Cymuned Ysgol yr Heddlu yn ymweld ag ysgolion a cholegau er mwyn amlygu risgiau a chanlyniadau cario cyllell.
"Rydym hefyd yn gofyn i rieni, gwarcheidwaid ac aelodau estynedig o'r teulu siarad gydag aelodau ifanc o'r teulu am droseddau cyllyll. Gallwch chwarae rôl hanfodol wrth eu hatal rhag bod yn gysylltiedig. Rydym yn eich cynghori i geisio siarad gyda nhw'n agored am y peryglon, ynghyd â'r canlyniadau newid bywyd sy'n deillio o gario cyllell.
"Rydym yn ddiolchgar am y cymorth gan ein partneriaid a chymunedau. Gyda'n gilydd fe wnawn barhau i weithio tuag at ddisodli cyllyll ac arfau peryglus a dod â'r bobl hynny sy'n gyfrifol, wrth eu cario a'u defnyddio, o flaen eu gwell."
Os oes gennych bryderon am rywun rydych yn eu hadnabod neu sy’n bwysig i chi, ac sy'n cario neu'n cuddio cyllell, ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu'r wefan ymgyrch Byw Heb Ofn https://www.fearless.org/en/give-info. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.
Gall defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr ymgyrch drwy’r hashnod #YmSceptre #OpSceptre