Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae bob mis yn cynnwys un o'r cŵn ar waith, yn taflu goleuni ar y gwaith amrywiol mawr maent yn ei wneud, o gynorthwyo ymgyrchoedd arfog a rhedeg ar ôl troseddwyr i chwilio am bobl ar goll.
Bydd yr holl elw o galendr 2023 yn cael ei rannu rhwng dwy elusen sef Paws Off Duty a sefydliad y Thin Blue Paw.
O dan reoliadau'r heddlu, mae cŵn a ddefnyddir at ddiben cyffredinol neu waith cyffuriau yn cael eu talu gan yr heddlu hyd nes iddynt ymddeol, yn aml rhwng wyth a deg oed. Ond unwaith maent yn gadael yr heddlu, mae pob nawdd gan yr heddlu'n dod i ben. Triniwr y ci, neu'r perchennog os ydy'r ci wedi'i ailgartrefu, sy'n gyfrifol wedyn am yr holl gostau.
Mae'r ddwy elusen yn cynorthwyo gyda chostau o ddydd i ddydd o ofalu am yr anifeiliaid wrth iddynt glocio 'oddi ar ddyletswydd' er mwyn ymddeol. Mae hyn yn cynnwys cost treuliau milfeddygol.
Dywedodd PC Jackie Edwards a sefydlodd Paws Off Duty yn 2015: "Mae bob ceiniog o gymorth i'n cŵn sydd wedi ymddeol sydd wedi ymroi eu bywydau er mwyn gofalu am ein cymunedau. Rwyf yn gobeithio y gall y cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad drwy brynu un o'r calendrau hyn, a wnaiff gynorthwyo'n fawr tuag at gronfeydd mawr eu hangen. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'n ffrindiau yn Farm and Pet Place am eu cymorth amhrisiadwy. Rydym yn hynod ddiolchgar am eu cymorth."
Gellir prynu'r calendrau, sy'n £5, mewn siopau Farm and Pet Place a thrwy eu gwefan Alliance Police Dog Calendar – View Our Range at Farm & Pet Place (farmandpetplace.co.uk)
Gallwch hefyd ddilyn gwaith ein cŵn drwy eu tudalen Facebook @CheshireandNorthWalesPoliceDogs neu drwy Twitter drwy ddilyn @ChNWPoliceDogs