Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol a darparu gwasanaeth ieuenctid yn ddau fater allweddol a drafodwyd yn y fforwm cymuned aml-ffydd diweddaraf yn Wrecsam.
Wedi'i gynnal yng ngorsaf heddlu'r dref ar Ffordd Rhosddu fis diwethaf, denodd y digwyddiad gynrychiolwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd.
Cadeiriodd y Rhingyll Dave Smith y cyfarfod gan siarad â Gerald Williams, Caplan Heddlu Gogledd Cymru; Gareth Hall, Swyddog Cydlyniad Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru a Chaplan Dyneiddiaeth o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam; Dr Jishi o Ganolfan Ddiwylliannol Islamaidd Wrecsam; ac aelodau o dîm Bugeiliaid Stryd Wrecsam.
Gan adlewyrchu ar sesiwn ymgysylltu 'gynhyrchiol, dywedodd y Rhingyll Smith: "Roeddwn yn teimlo fel bod llawer o dir da wedi'i ennill yn y cyfarfod diweddaraf hwn, yn enwedig o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i effaith niweidiol ar gymunedau.
"Mae'r fenter ymgysylltiad cymunedol hon wedi galluogi swyddogion gael gwell dealltwriaeth o fywyd yn y dref i drigolion o bob cefndir.
"Mae ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ieuenctid yn brif flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru. Mynegodd y rhai hynny a ddaeth i'r cyfarfod yn glir ei fod yn parhau'n bryder i'r bobl yn eu cymunedau hefyd.
"Y consensws ymysg y grŵp oedd bod gan bobl ifanc wasanaethau cyfyngedig i'w defnyddio yn ystod gyda'r nosau.
"Nid ydy cyfleusterau fel clybiau ieuenctid a chymdeithasau staff mor gyffredin ag yr oeddent yn arfer bod.
"O ganlyniad, mae plant yn eu harddegau yn loetran ar y strydoedd gydag ychydig i'w wneud ac o bosib yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol a throseddu fel arall hyd yn oed.
"Mae'r grŵp yn ceisio ymdrin â'r broblem hon ac rydym yn gobeithio y gallwn symud ymlaen gyda rhai o'r awgrymiadau a wnaed."
Edrychir ar hyn o bryd ar opsiynau ar gyfer sefydlu clwb ieuenctid newydd o fewn canol y dref gan y grŵp.
Disgwylir diweddariadau pellach pan mae'r fforwm yn dod at ei gilydd eto ar ddydd Gwener 1 Gorffennaf am 3yh (lleoliad eto i'w gadarnhau).
Ychwanegodd y Rhingyll Smith: "Rydym eisiau i hyn fod yn brosiect parhaol a thymor hir. Gobeithio gwnaiff ein niferoedd barhau i godi yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod."
Gall unrhyw un gyda chysylltiadau gyda grwpiau ffydd lleol o fewn Wrecsam ac sy'n dymuno mynychu'r cyfarfod hwn, neu unrhyw un yn y dyfodol, e-bostio: [email protected]