Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Prif Gwnstabl Carl Foulkes i ymddeol fis Hydref eleni ar ôl bron i 30 mlynedd mewn plismona.
Dywedodd Carol, sydd wedi bod yn Brif Gwnstabl yng Ngogledd Cymru ers 2018: "Mae wedi bod yn fraint ac yn wir bleser gweithio gyda swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy'n mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i bawb. Ond nid ydy'r cadernid, y gallu a'r parodrwydd i addasu a newid a ddangoswyd gan y gweithlu cyfan erioed wedi bod yn fwy amlwg nag yn ystod y pandemig. Rwyf yn hynod falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni."
Wedi gadael y Llynges Frenhinol, cychwynnodd Carl ei yrfa blismona gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Dywedodd: "Bryd hynny, nid oeddwn wirioneddol yn meddwl y buaswn yn arolygydd heb sôn am fod yn Brif Gwnstabl. Mae wedi bod yn anrhydedd fawr arwain Heddlu Gogledd Cymru. Byddaf yn gweithio gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i'w gynorthwyo gyda phenodi Prif Gwnstabl newydd. Ond rwyf yn gwybod y bydd fy olynydd yn etifeddu pobl wych, heddlu gwych a rhywle gydag agwedd ardderchog a diwylliant 'gallu gwneud'. Rwyf wedi dweud erioed mai ceidwad yr heddlu ydw i ac rwyf yn wirioneddol gredu hyn. Rwyf yn gobeithio ein bod wedi gallu ei wneud yn lle ychydig yn well i'r rhai hynny sy'n cymryd gofal.
"Gofynnwyd i mi'n ddiweddar a fyddwn i'n ymuno a'r heddlu pe bawn i'n dechrau ar fy ngyrfa rŵan. Mae cymaint wedi newid, ond ni wnes gymryd ennyd i ymateb. Buaswn yn gwneud yr un peth eto. Mae plismona'n wahanol iawn i'r hyn ydoedd pan wnes i ymuno. Ond mae'n swydd wych sy'n caniatáu i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac mae ganddo amrywiaeth anhygoel. Buaswn yn annog unrhyw un i'w ystyried fel gyrfa."
Dywedodd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: "Buaswn yn hoffi talu teyrnged i Carl yn dilyn y newyddion ei fod yn bwriadu ymddeol fel Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. Ers dod i'r swydd fel CHTh yn 2021, rwyf wedi gweld ymroddiad Carl i'w rôl ac i wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel i'w holl drigolion o lygad y ffynnon. Rwyf hefyd wedi gwerthfawrogi'r cyngor a'r treiddgarwch mae'n ei gyflwyno i blismona ar bob lefel wedi 30 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus. Cydnabuwyd y profiad hwn a'i wasanaeth pan dderbyniodd Fedal Heddlu'r Frenhines yn 2020.
"Mae'r pedair blynedd ers iddo ddod yn Brif Gwnstabl wedi bod yn gyfnod heriol iawn i'r wlad gyfan, yn ystod y pandemig yn anad dim. Ond mae Carl wedi wynebu'r heriau digynsail hyn gydag ymrwymiad, ymroddiad ac agwedd gadarnhaol a diwyro ar fywyd ac ar y cyfraniad hanfodol y gall plismona effeithiol ei roi i gymdeithas. Bydd yn gadael tîm cryf ac astud yn Heddlu Gogledd Cymru - un sy'n addas i'r dyfodol ac i'r heriau sydd o'n blaenau. Byddaf rŵan yn edrych ar benodi Prif Gwnstabl newydd dros y misoedd nesaf. Byddaf yn eu cyflwyno i'r Panel Heddlu a Throsedd i'w cadarnhau. Ond ar hyn o bryd, hoffem ddiolch i Carl am ei waith a'i arweiniad gwych. Dymunwn y gorau oll iddo ef a'i deulu.