Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae adroddiadau diweddar o yfed o dan oed yng nghanol tref Wrecsam wedi ysgogi mesurau mwy llym i fynd i'r afael â'r mater.
Un testun gofid yw'r defnydd o gardiau ID ffug neu wedi eu benthyg gan rhai o dan 18 er mwyn prynu alcohol.
Mae cynlluniau sy'n bodoli eisoes i frwydro yfed o dan oed, fel Sialens 21 a 25 wedi ei gwneud hi yn fwy anodd i bobl gael mynediad i safleoedd trwyddedig y dref.
Nawr bydd staff diogelwch/bar mewn tafarnau a chlybiau yn gofyn i unrhyw un sy'n ymddangos yn ifancach na 18 ddangos dwy ffurflen ID cyn mynd i mewn i dafarn a chael eu gweini.
Mae mynd i'r afael ag yfed yn Wrecsam yn flaenoriaeth of fewn y prosiect 'Strydoedd Diogel' - cynllun ar y cyd wedi ei arwain gan Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam mewn ymgais i wella diogelwch cyhoeddus.
Dywedodd yr Arolygydd Claire McGrady, sy'n rhedeg y fenter Strydoedd Diogelach: "Nid oes gan Wrecsam problem anarferol gydag yfed o dan oed.
“Fel y rhan fwyaf o drefi y DU - mae pobl yn eu harddegau yn ceisio mynd i mewn i dafarnau a chlybiau ar y penwythnos.
“Mae rhai yn defnyddio ID wedi ei fenthyg gan ffrind sy'n hyn, ac eraill wedi prynu cardiau ID ffug o rywle arall.
“Dros y penwythnos diwethaf cawsom wybod am ferch 17 oed yng nghanol y dref a oedd ar ei phen ei hun ac yn feddw.
“Roedd hi mewn sefyllfa fregus cyn iddi gael ei chanfod a chael cymorth gan swyddogion.
“Fel rhan o'n gwaith ar y cyd o fewn y Cynllun Strydoedd Diogelach, mae staff ar safleoedd trwyddedig wedi rhoi gwybodaeth ac yn awyddus i graffu yn fwy manwl.
"Hoffwn annog rhieni i sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant gyda'r nos a gyda phwy.
"Rwy'n siŵr y byddai nifer o rieni yn poeni pe byddai eu mab neu eu merch yn peryglu eu hunain drwy yfed o dan oed."
Mae'n drosedd i ddefnyddio ID ffug neu wedi ei fenthyg i gael mynediad i safleoedd trwyddedi neu i brynu alcohol.
Gall cosb am wneud hynny arwain at ddirwy o £5,000 neu 10 mlynedd o garchar.
Dywedodd Swyddog Trwyddedi Heddlu Gogledd Cymru, Charlotte Carr: "Nid yn unig mae safleoedd lleol yn ymwybodol o'r materion yn ymwneud ag ID ffug ond mae cwmnïau diogelwch lleol sy'n goruchwylio safleoedd trwyddedig hefyd wedi cael gwybod.
“Byddwn yn parhau i gefnogi'r safleoedd lleol gyda'r broblem barhaus hon a bydd pobl ifanc sy'n defnyddio ID ffug yn cael eu cosbi."
Y tu hwnt i'r oblygiadau cyfreithiol llym hyn gall troseddu gydag ID ffug gael effaith ar yrfaoedd pobl ifanc yn y dyfodol.
Eglurodd Swyddog Iechyd Cyngor Wrecsam, Andrea Mach “Mae pobl ifanc sy'n defnyddio ID sy'n perthyn i rywun arall neu ID ffug gyda'r pwrpas o brynu diod mewn peryg o gael eu gwrthod wrth wneud cais am basbort pan fyddant yn gwneud cais yn gyfreithlon.
“Mae'r ID sy'n cael ei gymryd oddi wrthynt ar noson allan ac yna cael ei basio yn ôl i asiantaethau perthnasol ac mae cofnodion yn cael eu cadw o unigolion sy'n defnyddio dogfennau yn anghyfreithlon.
“Mae cael eich erlyn am dwyll, a all arwain at erlyniad troseddol hefyd yn effeithio ar yrfa yn y dyfodol a'r gallu i fynd i rai gwledydd y tu allan i'r DU. Mae'r canlyniadau yn real."