Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth ar ôl i lori a oedd wedi ei pharcio, gael ei thargedu gan ladron ar Ynys Môn.
Yn ystod oriau man bore ddoe, dydd Gwener, 11 Mawrth, targedodd lladron lori a oedd wedi ei pharcio mewn cilfan ar yr A55. Roedd cyrten ochr y trelar wedi cael ei rwygo a chafodd sawl bocs o hylif hunan-dorheulo gael eu dwyn.
Roedd gyrrwr y lori yn cysgu ar y pryd.
Meddai’r Ditectif Rhingyll Bev Makanjee o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â’r digwyddiad yma, neu unrhyw un sydd wedi cael cynnig prynu hylif hunan-dorheulo o dan amgylchiadau amheus i gysylltu â ni.
“Rydym hefyd yn annog gyrwyr lorïau a perchnogion cwmnïau lorïau i wirio eu cerbydau’n rheolaidd, ac i chwilio am unrhyw arwydd bod rhywun wedi bod yn ceisio torri cyrtens y trelar.
“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yma, neu unrhyw un sy’n gweld ymddygiad amheus o amgylch lorïau sydd wedi cael eu parcio, gysylltu â ni ar unwaith.”
Dylai unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy’r sgwrs fyw ar y wefan, neu drwy ffonio 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 22000170632.