Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Wynedd wedi'i ddedfrydu i saith mlynedd a hanner o garchar.
Cafwyd Aly Khan, 64 oed o Gaernarfon yn euog o gyflenwi cyffuriau dosbarth A a meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth A yn Llys y Goron, yr Wyddgrug.
Mae dyn o Wynedd wedi'i ddedfrydu i saith mlynedd a hanner o garchar.
Cafwyd Aly Khan, 64 oed o Gaernarfon yn euog o gyflenwi cyffuriau dosbarth A a meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth A yn Llys y Goron, yr Wyddgrug.
Dechreuodd yr ymchwiliad yn haf 2021 ar ôl derbyn nifer o adroddiadau o'r gymuned yn ymwneud â rhan Mr Khan yn cyflenwi cyffuriau dosbarth A yn ardal Caernarfon.
Cyflawnwyd gwarant yn ei gartref ac atafaelwyd tua hanner kilogram (0.5kg) o heroin.
Ar ôl yr atafaelu, gwnaed arestiadau pellach yn ystod y misoedd dilynol, gyda symiau ychwanegol o gyffuriau dosbarth ac arian yn cael eu hatafaelu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Christopher Hargrave ar ôl y ddedfryd: "Dylai dedfryd heddiw atal y rhai hynny sy'n meddwl mai'r ffordd ymlaen ydy cyflenwi cyffuriau.
“Roedd hwn yn ymchwiliad estynedig gan Dîm Blaenoriaethau Troseddau y Gorllewin ac rwyf yn ddiolchgar i'r gymuned sy'n parhau i roi gwybodaeth am y rhai sy'n cyflenwi cyffuriau.
"Buaswn yn annog unrhyw un gyda phryderon neu wybodaeth am gyflenwi cyffuriau i hysbysu Heddlu Gogledd Cymru drwy ddefnyddio ein cyfleuster Sgwrs Fyw neu ffonio 101, neu fel arall gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111."