Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swm sylweddol o gyffuriau ac arian parod wedi cael ei hatafaelu mewn un mis yn unig gan dîm plismona sy’n targedu trosedd trefnedig a gangiau cyffuriau yng Ngogledd Cymru.
Mae’r Tîm Rhwystro, sy’n gweithredu ar draws y rhanbarth, wedi cael mis Mawrth prysur gydag 16 o arestiadau am pob math o droseddau, ac wedi atafaelu dros 100 o becynnau cyffuriau Dosbarth A, 40 bag o gyffuriau Dosbarth B a £5,000 mewn arian parod.
Mae’r swyddogion wedi cynnal cyrchoedd cyffuriau, wedi stopio sawl cerbyd ac wedi gwneud arestiadau yn gysylltiedig â bod mewn meddiant o gyffuriau, gyrru dan ddylanwad alcohol a cyffuriau a troseddau gyrru eraill.
Gan gydweithio’n agos hefo Uned Plismona’r Ffyrdd, Swyddogion Arfog, swyddogion plismona cymunedol, yr Uned Drôn ynghyd â heddluoedd eraill megis Heddlu Glannau Mersi, mae’r tîm rhwystro yn cael eu tasgio i ganolbwyntio ar unigolion a lleoliadau yn ddyddiol, gan gynnwys gangiau trosedd trefnedig a thargedau llinellau cyffuriau sy’n achosi problemau mewn cymunedau.
Meddai’r Arolygydd Matt Subacchi, sy’n gyfrifol am y tîm: “Fe wnawn barhau i wneud pob dim er mwyn rhwystro troseddwyr drwy dargedu ymgyrchoedd gyda chudd-wybodaeth, patrolio rhagweithiol a darparu cefnogaeth i’r Timau Cymdogaethau Diogelach.
“Rydym yn gweithio ar draws y rhanbarth ac mae’r elfen gudd-wybodaeth yr ydym yn ei dderbyn yn tyfu’n ddyddiol. Fe wnawn weithredu ar y wybodaeth sy’n dod atom ac rydym yn ddiolchgar i’r gymuned am rannu gwybodaeth, unai yn uniongyrchol atom neu’n ddienw drwy Crimestoppers.
Fe ychwanegodd: “Fe wnawn barhau i ddefnyddio cyfuniad o dactegau i sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau drwy weithio’n rheolaidd gyda swyddogion lleol yn ogystal a’n partneriaid gyda heddluoedd eraill.”
Mae’r Tîm Rhwystro yn defnyddio technoleg arloesol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu atal a stopio troseddwyr, gan wneud Gogledd Cymru yn lle digroeso iddynt.
Ers lansio yn Chwefror 2020, mae’r Tîm Rhwystro wedi adfer swm sylweddol o gyffuriau, miloedd mewn arian parod, ffonau symudol ac arfau - gan gynnwys cyllyll a Thaser ac wedi gwneud cannoedd o arestiadau rhagweithiol.