Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth chwaraewyr CPD Gorsaf Heddlu Tref Wrecsam adref gyda thlws arian ar ôl cystadlu mewn twrnamaint wyth tîm yn Llandudno.
Yn cael ei gynnal gan North Wales Dragons ar Barc Maesdu, croesawodd Twrnamaint Gwahoddiadol y Dreigiau dimau o Ogledd Cymru ac ymhellach.
Yn dilyn cyfres o gemau agos yn erbyn CPD Tal-y-bont, Sefydliad Cymunedol Curzon Ashton a Staff Tranmere Rovers, cafodd y swyddogion dlws 'Cynghrair Europa' y twrnamaint.
Fe wnaeth y Rhingyll Dave Smith, a sefydlodd dîm yr heddlu yn gynharach eleni, golli'r twrnamaint oherwydd ymrwymiadau gwaith ond roedd yn falch o ymdrechion ei chwaraewyr.
Dywedodd: "Mae ennill ein tlws cyntaf yn gyflawniad braf. Ond nid dyna pam rydym yn chwarae'r gemau hyn.
"Roedd yn ddiwrnod gwych a chwaraewyd y gemau i gyd yn yr ysbryd cywir. Rwyf yn gwybod y gwnaeth ein chwaraewyr fwynhau wynebu timau eraill sy'n gwneud cymaint o waith o fewn eu cymunedau.
"Hoffem ddiolch i North Wales Dragons am ein gwahodd ni i chwarae yn y digwyddiad. Roedd yn drefnus iawn ac yn hysbyseb gwych i bel droed cymunedol yn y rhanbarth hwn."
Ffurfiwyd y tîm yn Wrecsam fis Ionawr fel rhan o fenter ymgysylltu cymunedol gan anelu i greu cysylltiadau cryfach rhwng swyddogion a'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
Mae hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth wedi bod yn ganolog i ymdrechion ymgysylltu'r swyddogion, gyda'r clwb i wynebu timau cymunedol eraill yn yr wythnosau nesaf.
Fel rhan o Wythnos Ceiswyr Lloches eleni, bydd tîm heddlu rhywedd cymysg yn wynebu CPD Bellevue yn Wrecsam ar ddydd Sul, 26 Mehefin.
Bydd y gêm am 11yb yn dilyn gêm gyda chymuned ceiswyr lloches Wrecsam awr ynghynt ar Barc Bellevue.
Wythnos yn ddiweddarach yn Lerpwl, bydd y swyddogion yn chwarae Rainbow Toffees – grŵp LHDTQ Everton sy'n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb a dileu rhagfarn yn y clwb a'r gymuned ehangach.
Ychwanegodd y Rhingyll Smith: "Rydym yn falch o gael y gemau hyn yn y dyddiadur.
"Mae Bellevue yn glwb rydym yn ei adnabod yn dda ac mae gennym barch mawr tuag ato oherwydd eu gwaith cymunedol diflino.
"Mae yna'n wych cael y cyfle i chwarae'r Rainbow Toffees, sydd wedi dangos ymrwymiad mawr i amlygu problemau LHDTQ ar Lannau Mersi.
"Gwnaethom ddechrau'r tîm hwn gyda'r nod o chwalu rhwystrau ac rwyf yn teimlo ein bod yn cyflawni hynny gyda phob gêm rydym yn ei chwarae.
"Gobeithio ein bod wedi dangos ochr ddynol i blismona ac wedi rhoi argraff gadarnhaol i bobl o'r heddlu yn gyffredinol."
Os hoffai eich tîm cymunedol chwarae yn erbyn CPD Gorsaf Heddlu Tref Wrecsam mewn gêm gyfeillgar, cysylltwch â: [email protected]