Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae rôl timau rheng flaen Heddlu Gogledd Cymru yn derbyn ffocws newydd yn dilyn lansio menter ymgysylltu newydd.
Yn cael ei arwain gan Brif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Allsop, mae Frontline Focus yn ceisio mynd i'r afael â materion allweddol sy'n amharu ar swyddogion a staff yn eu dyletswyddau.
Drwy'r ymgysylltu staff parhaus hwn, mae'r grŵp ffocws yn ceisio diddymu'r rhwystrau a all atal swyddogion rhag cyflawni eu dyletswyddau yn y modd mwyaf effeithiol.
Dywedodd Chris Allsop, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae nod sylfaenol Frontline Focus yn syml. Rydym eisiau i swyddogion roi'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.
“I wneud hynny'n llwyddiannus rhaid i ni adnabod a deall agweddau o waith plismona a allai, o bryd i'w gilydd atal hynny rhag digwydd.
“Mae'r gwaith yr ydym yn gwneud yn cynnwys nifer o feysydd busnes ond yn bwysicach mae’r ffocws ar ddeall a phwysleisio'r manteision i'ch staff llinell flaen.
"Er enghraifft, mae lleihau gwaith gweinyddol eithafol yn faes yr ydym wedi edrych arno...
"Dylai'r prosesau hyn leihau'r galw sylweddol ar swyddogion gan roi amser ychwanegol i flaenoriaethu dyletswyddau eraill.
"Yng nghyfnod cynnar Frontline Focus rydym hefyd wedi ceisio gwella problemau TGCh ledled yr Heddlu, wedi cryfhau gallu gweithredol mewn meysydd allweddol i wella amseroedd ymateb, ac wedi gwneud gwaith i wella adnoddau llinell flaen ac wedi edrych ar fesurau eraill i dorri'r galw i lawr."
Ers ymuno â HGC o Heddlu Manceinion Fwyaf bedwar mis yn ôl, mae PGC Allsop wedi pwysleisio'r angen am ymgynghoriad agosach gyda'r rhai ar linell flaen plismona.
Mae'n hyderus y bydd dull ar y cyd yn gwella bywyd gwaith swyddogion a staff
ar y llinell flaen, a gwella plismona'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Cafodd cynllun cynhwysfawr cefnogi lles yr Heddlu ei ganmol am ei ymroddiad i gynorthwyo'r rhai sydd angen y gwasanaeth.
“Mae'n bwysig bod y gwaith y mae ein swyddogion yn gwneud yn ddyddiol yn cael ei gydnabod a bod eu lleisiau yn cael eu clywed" dywedodd.
“Mae gwaith plismona yn fuddiol iawn ond hefyd yn heriol.
“Mae'r Prif Swyddogion yn deall pa mor galed gall y swydd fod yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol - a gymaint yw'r gofynion ar y swyddogion.
“Mae'r ddogfen hon yn cadarnhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o'r heriau hyn a bod lles y staff bob amser yn ystyriaeth gyfannol.
"Mae Rhaglen Les arloesol mewn lle i ateb ystod eang o anghenion i'r rhai sy'n cael problemau.
“Dylai ein swyddogion deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu gwaith ac yn cael cefnogaeth pan fyddant yn wynebu amgylchiadau caled ac anodd. Mae cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar gael bob amser i'r rhai sydd ei angen.
“Fel cadeirydd grŵp Frontline Focus hoffwn bwysleisio bod y gwaith ymgynghorol sy'n digwydd yn anelu at wneud gwahaniaeth sylweddol a phositif.
"Bydd yn aros yn flaenoriaeth yng nghyswllt datrys meysydd sy'n achosi problemau ar gyfer rhai ar linell flaen plismona.
“Drwy wneud newidiadau sylfaenol yn y misoedd sydd i ddod gall Frontline Focus barhau i gyflwyno canlyniadau positif i bawb."
Nid oes cyfle gwell wedi bod erioed i ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ac rydym yn recriwtio Swyddogion a SCCH ar hyn o bryd.
Rydym yn chwilio am bobl sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, pobl a all ddod â'u profiadau amrywiol atom sy'n fodlon diogelu ein strydoedd.
Os ydych eisiau gyrfa amrywiol a chyffrous yn diogelu a gwasanaethu eich cymuned, ewch i: Police Officers | North Wales Police