Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:21 18/07/2022
Yn ystod y tywydd poeth mae Heddlu Gogledd Cymru yn pwysleisio'r perygl o nofio mewn pyllau chwareli ynghyd â llynnoedd ac afonydd.
Daw'r rhybudd wrth i ysgolion gau am y gwyliau haf a pryderon am blant a phobl ifanc yn tresmasu a neidio oddi ar y clogwyni i mewn i byllau dŵr wrth i’r tywydd gynhesu.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Helen Corcoran o Heddlu Gogledd Cymru: "Yn anffodus mae digwyddiadau trasig wedi digwydd mewn rhannau eraill o’r DU dros yr wythnos ddiwethaf ac rydym yn cydymdeimlo’n ddwys hefo teuluoedd a ffrindiau y rhai sydd wedi’i heffeithio.
“Yn anffodus, mae sawl trychineb hefo pobl yn mynd i drafferthion ar ôl mynd i mewn i byllau chwareli, llynnoedd ac afonydd wedi digwydd yma yng Ngogledd Cymru dros y blynyddoedd.
“Wrth i ysgolion gau am yr haf rydym ni unwaith eto yn amlygu er ei fod yn demtasiwn i neidio i mewn i bwll neu lyn cyfagos ar ddiwrnod poeth neu i nofio yn nyfroedd hen chwarel, mae'r pyllau yn ddwfn iawn – hyd at 60 metr o ddyfnder – a gall dod allan fod yn anodd oherwydd yn ochrau serth.
“Mae'r dŵr yn arbennig o oer a gall hyn achosi cramp sydd yn gallu effeithio eich anadl sy’n gallu achosi pobl i ddychryn a mynd i banig. Gall hyn hyd yn oed effeithio nofwyr cryf.
“Yn ogystal â'r peryglon sy'n gysylltiedig â nofio mewn llefydd anghysbell, mae neidio o greigiau hefyd yn rhoi pobl mewn perygl. Mae nofio mewn chwareli gwag yn beryglus iawn ac rwyf yn ymbilio ar blant a phobl ifanc ac unrhyw un arall i gadw draw. Rydym yn eich annog i edrych ar ôl eich ffrindiau, osgoi nofio neu neidio i mewn i byllau chwareli, llynnoedd ac afonydd. Trefnwch sut i fwynhau wrth gadw’n oer mewn modd diogel.”
Mae’r cyhoedd hefyd yn cael eu hatgoffa bod chwareli yn eiddo preifat a bod unrhyw un sy'n nofio neu yn dringo'r creigiau yn tresmasu.
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Corcoran: “Rydym yn gwerthfawrogi fod y tywydd yn gynnes ac mae disgwyl iddi boethi dros y dyddiau nesaf. Fodd bynnag, mae'r dŵr yn rhewllyd ac yn llawn peryglon – sbwriel megis hen gerbydau ac offer yn ogystal â chwyn a brwyn nad ydynt o reidrwydd i'w gweld ar yr wyneb.
"Mae'r dŵr yn gallu bod yn ddwfn iawn a gall nofwyr fynd allan o'u dyfnder yn hawdd. Os ydych yn meddwl am nofio mewn llefydd o'r fath, meddyliwch eto, ystyriwch y peryglon a pheidiwch â thresmasu. Rydych yn rhoi eich hun mewn perygl ac o bosib pobl eraill a fydd yn gorfod dod i'ch achub.
“Rydym yn annog rhieni a gofalwyr i ddysgu eu plant am beryglon tresmasu ac osgoi nofio mewn pyllau a llynnoedd a bod yn ymwybodol o'r hyn mae eu plant yn gwneud yr haf hwn."
Dylai unrhyw un sy'n gweld pobl yn nofio mewn pyllau chwareli gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar unwaith drwy 999.
Gallwch hefyd gysylltu drwy ffonio 101 neu mynd ar y wefan Cysylltu â ni | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)