Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:18 11/07/2022
Yn dilyn ymgyrch hir a dyfal, mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr wedi croesawu Swyddogion Gwirfoddol i ymuno a'i 139,000 o aelodau o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen.
Fel aelodau o Ffederasiwn yr Heddlu, bydd gan Swyddogion Gwirfoddol yr hawl i fwy o warchodaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol. Dywedodd Mark Jones, Ysgrifennydd Ffederasiwn yr Heddlu (ei lun ar y chwaith), sydd wedi bod yn allweddol yn y trafodaethau rhwng y Ffederasiwn a Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'n wych fod Swyddogion Gwirfoddol bellach hefo'r cyfle i ymuno a'r Ffederasiwn – hir yw bob ymaros! Nid ydy'r cyfrifoldebau cyfreithiol a'r craffu mae swyddogion heddlu yn ei wynebu ddim gwahanol boed eich bod yn swyddog rheolaidd neu'n Swyddog Gwirfoddol. Dyna pam ei bod yn hanfodol bwysig y rhoddir sicrwydd cyfartal gan y Ffederasiwn. Rydym yn edrych ymlaen at gynrychioli a chynorthwyo ein holl aelodau a bydd Swyddogion Gwirfoddol yn rhan bwysig o hynny."
Y swyddogion gwirfoddol cyntaf i ymuno o Heddlu Gogledd Cymru oedd yr Uwcharolygydd Gwirfoddol Carl Williamson (llun ar y dde) a'r Prif Swyddog Gwirfoddol Mark Owen (llun yn y canol) a anfonodd eu ceisiadau o fewn munudau ar ôl derbyn newyddion o lwyddiant yr ymgyrch.
Dywedodd y Prif Swyddog Gwirfoddol Mark Owen: "Rwyf yn croesawu'r datblygiad hwn yn fawr. Hir yw bob ymaros. Mae'n gam mawr ymlaen bod Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr bellach yn gallu cynnig aelodaeth i Swyddogion Gwirfoddol. Mae'n newyddion mor dda fod Swyddogion Gwirfoddol bellach yn gallu dod yn aelodau o'r Ffederasiwn a chael yr un lefel o gynrychiolaeth a'u cydweithwyr cyflogedig. Y dyddiau hyn mae swyddogion gwirfoddol yn swyddogion heddlu yn gyntaf ac yn wirfoddolwyr yn ail. Maent yn cyflawni'r un dyletswyddau a swyddogion cyflogedig ac yn cymryd yr un risgiau. Mae Swyddogion Gwirfoddol felly angen ac yn haeddu'r un lefel o gynrychiolaeth"
Tra mae'n ddewisol ymuno a'r Ffederasiwn, mae Swyddogion Gwirfoddol yn cael eu hannog i ymuno gan y byddent yn derbyn cymorth a chyngor gan gyd swyddogion sy'n gynrychiolwyr gweithle etholedig ac sydd wedi derbyn hyfforddiant ar Reoliadau'r Heddlu er mwyn sicrhau cynrychiolaeth iawn, os ydynt yn wynebu problem. Mae'r cymorth a roddir yn mynd o wybodaeth ar hawliau, hawliadau a chynrychiolaeth gyfreithiol, i fynediad at lu o fanteision ychwanegol.