Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:47 12/07/2022
Y llynedd, mi wnaethon ni, Heddlu Gogledd Cymru lansio ein cystadleuaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd; her i blant ysgol gynradd i ddylunio poster yn hyrwyddo bod yn ddiogel ar-lein. Roedd hi’n llwyddiant mawr gyda 578 o yn ymgeisio...eleni anfonwyd 2,107 o bosteri creadigol ac artistig gan blant talentog ar hyd a lled Gogledd Cymru.
Ymhlith y panel yn dewis yr enillwyr roedd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin, yr Uwcharolygydd Helen Corcoran, DS Carl Taraborelli, PC Dewi Owen, Uwch Siryf Gwynedd Davina Carey Evans, Uwch Siryf Clwyd Zoe Henderson, Uwch Ddirprwy Lywydd CGI Donna Kelly a Rob Small o gwmni Ifor Williams Trailers. Roedd hi’n waith caled mynd drwy’r holl bosteri i ddethol y rhai gorau a phenderfynu ar yr enillwyr.
Dywedodd PC Dewi Owen o Uned Troseddau Seibr Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi arwain y gystadleuaeth ac a oedd ar banel y beirniaid “Diolch i bawb a wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni. Roedd y posteri i gyd yn ffantastig, yn rhannu negeseuon pwysig am aros yn ddiogel ar-lein. Mae’n wych gweld fod cymaint o bobl ifanc o’r Gogledd wedi treulio amser yn meddwl sut i aros yn ddiogel ar-lein ac wedi trafod eu syniadau gydag athrawon, ffrindiau, a theulu. Diolch i bawb am ein helpu i wneud y Rhyngrwyd yn le mwy diogel.”.
Dyma’r rhestr o enillwyr o bob ardal:
Y Dwyrain:
Manulmi o Ysgol Gynradd Rhosddu ym Wrecsam:
Bydd swyddogion o Dîm Troseddau Seibr, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin a Gemma Owen o Dîm Cymunedau Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ymweld ag Ysgol Gynradd Rhosddu ar 19 Gorffennaf yn ystod gwasanaeth diwedd y tymor i gyflwyno gwobrau i Manulmi sy’n cynnwys Talebau Zip World, Talebau Ninja Tag, Cerdyn Rhodd a thystysgrif arbennig. Fel un o’r ysgolion buddugol bydd Ysgol Gynradd Rhosddu hefyd yn derbyn pêl-droed wedi ei arwyddo gan garfan tîm Wrecsam ynghyd â siec o £350.
Dilynwch @NWPWrexhamTown ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.
Canolbarth:
Amber o Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn:
Bydd y Tîm Troseddau Seibr a Phrif Gwnstabl HGC Carl Foulkes yn cyflwyno’r gwobrau i Amber ar bicnic diwedd tymor yn Ysgol Penmorfa ar 18 Gorffennaf yn cynnwys Talebau Zip World, Talebau SC2 a Cherdyn Rhodd a Thystysgrif arbennig. Bydd Ysgol Gynradd Penmorfa yn derbyn taleb i ddisgyblion fynd i Barc Glannau Dyfrdwy ynghyd â siec gwerth £350.
Dilynwch @NWPDenbighshireCoastalandAbergele ar y cyfryngau cymdeithasol.
Y Gorllewin a’r Prif Enillydd:
Charlotte o Ysgol Y Tywyn yng Nghaergybi:
Enillydd y Gorllewin, ac enillydd y gystadleuaeth yn gyffredinol yw Charlotte o Gaergybi! Bydd Charlotte yn derbyn ei gwobrau sy’n cynnwys talebau Zip World a Ribride , cerdyn rhodd a thystysgrif arbennig gan Dîm Troseddau Seibr , Rheolwr PACT Gogledd Cymru a PC Andrew Jackson, swyddog cydlynu ysgolion ar 15 Gorffennaf.
Fel yr enillwyr cyffredinol bydd Ysgol Y Tywyn yn derbyn pêl-droed wedi ei arwyddo gan Garfan Pêl-droed Cymru a fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd, a siec gwerth £350.
Dilynwch @NWPAnglesey ar y cyfryngau cymdeithasol.
Pa mor wych oedd y posteri hyn i gyd? Roedd pob poster a dderbyniwyd yn ardderchog a hoffem ddangos pob un ohonynt ond mae’n amhosib dangos 2,107 ohonynt!
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn cynnwys yr holl athrawon a rieni a helpodd hefyd! Gobeithio bod y plant wedi mwynhau cymryd rhan ac hefyd eu bod wedi dysgu sut i aros yn ddiogel ar-lein ac y bydd hwn yn rhywbeth y byddant yn cofio wrth iddynt dyfu.
Am wybod mwy am sut i aros yn ddiogel ar-lein? Dilynwch @TroseddauSeibrHGC i gael cyngor defnyddiol