Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth Heddlu Gogledd Cymru at ei gilydd gyda heddluoedd ledled y DU ddoe (Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf) fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol ar gydraddoldeb rhywedd – HeForShe.
Am y pum mlynedd diwethaf, mae pob heddlu yn y DU wedi cofrestru ar gyfer menter Merched y CU. Maent yn gweithio gyda'i gilydd i ddatrys anghydraddoldeb rhywedd a geir o fewn plismona a gweithio i atal cam-drin domestig a cham-drin rhywiol mewn cymdeithas.
Mae'r mudiad HeForShe yn ceisio ymgysylltu dynion, a phobl o bob rhywedd, i sefyll mewn undod gyda merched er mwyn creu grym unedig dros gydraddoldeb rhywedd.
Cynhaliwyd digwyddiad ddoe yn y Kia Oval Conference Centre, Kennington yn Llundain – gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol – er mwyn rhannu arfer da ac adnewyddu ymrwymiadau HeForShe heddluoedd y DU, gan gydnabod y cynnydd hyd yma.
Rhoddodd hefyd ddiweddariadau ar dri ymrwymiad newydd, a gytunwyd gyda'r CU.
Y cyntaf ydy ymdrin â'r anghydraddoldeb o ran rhywedd mewn timau rheoli canol o fewn heddluoedd, yn benodol rhengoedd Rhingylliaid ac Arolygyddion.
Yr ail ydy ymdrin a thynnu'r rhagfarn rhyw a chasineb at wragedd, lle mae'n bodoli, yn niwylliant yr heddlu.
Yn olaf, cynorthwyo i adrodd am wybodaeth cydraddoldeb rhywedd yn flynyddol.
Dywedodd Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ac Arweinydd HeForShe Plismona'r DU fod pob heddlu wedi gweithio'n galed i wneud cynnydd tuag at gydraddoldeb rhywedd dros y pum mlynedd diwethaf.
Dywedodd: "Mae rhwydwaith cryf o gynghreiriaid HeForShe wedi'i greu. Mae tri adroddiad blynyddol wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn, gan ddal y cynnydd sy'n cael ei wneud i ddatrys anghydraddoldeb o ran rhywedd a geir o fewn plismona.
"Dros y pum mlynedd diwethaf, mae camau mawr wedi'u cymryd i gynyddu'r nifer o ferched sy'n ymuno fel swyddogion heddlu. Ar ben hyn, rydym wedi gweld twf mewn merched yn dod yn brif swyddogion.
"Serch hynny, mae'n bwysig nad ydym yn colli ffocws. Mae angen i ni sicrhau fod y nifer cynyddol o ferched sydd wedi ymuno yn cael y cyfleoedd datblygu iawn er mwyn ymdrin â'r bwlch o ferched sy'n cael eu tangynrychioli o fewn swyddi rheoli canol ac uwch.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ni ychwanegu at y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma a chyflymu newid tuag at gydraddoldeb o ran rhywedd."
Yn ystod y digwyddiad, gwnaeth yr Asiantaeth wneud ei hymrwymiad ei hun i HeForShe, ac ymunodd â rhwydwaith plismona y DU i weithio tuag at gydraddoldeb o ran rhywedd.
Dywedodd Graeme Biggar, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth: "Mae'r Asiantaeth wedi ymroi i ddilyn cydraddoldeb o ran rhywedd. Mae ymuno â HeForShe yn rhan bwysig o gryfhau ein diwylliant cynhwysiant ehangach.
"Rydym yn parhau i blannu gweithgarwch sy'n rhan o'r ymrwymiad HeForShe, fel cynnal digwyddiadau mentora ar gyfer Diwrnod Merched Rhyngwladol, digwyddiadau casineb tuag at ferched a sesiynau ymwybyddiaeth menopôs i ddynion.
"Rydym yn benderfynol o barhau i ychwanegu tuag at Asiantaeth sy'n cynrychioli'r cyhoedd rydym yn ei wasanaethu go iawn. Rydym eisiau Asiantaeth hefyd sy'n cynorthwyo ac yn annog ein swyddogion i gyrraedd eu llawn botensial. Mae hynny'n ein cynorthwyo ni fod yn fwy effeithiol mewn ymdrin â throsedd difrifol a threfnedig a gwarchod y cyhoedd."
Ers ei lansiad gan Ferched y CU yn 2014, mae'r mudiad HeForShe wedi ymgysylltu â miliynau o ddynion o amgylch y byd, gan gynnwys Penaethiaid Gwladwriaethau, Prif Swyddogion Gweithredol ac arweinwyr byd eang wrth symud hawliau merched ymlaen.
Llun: Prif Gwnstabl Carl Foulkes a Chyfarwyddwr Cyffredinol yr NCA, Graeme Biggar.