Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd aelodau o gang Llinellau Cyffuriau Sir y Fflint eu dedfrydu i 30 mlynedd yn y carchar.
Carcharwyd naw yn Llys y Goron, Caernarfon ar ôl cyfaddef i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Mae hyn yn dilyn Ymgyrch Blue Magnitude, ymgyrch ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru ac Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol y Gogledd Orllewin (NWROCU) i atal cyflenwi cyffuriau Dosbarth A yng Nglannau Dyfrdwy.
Fel rhan o'r ymgyrch, gwnaed sawl cyrch mewn cyfeiriadau yng Nghei Connah, Shotton, Garden City a Queensferry yn gynharach ym mis Mehefin, a wnaeth arwain at atafaelu cyffuriau Dosbarth A ac arian.
Dywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio, DI Mark Hughes: “Mae'r dedfrydau hyn yn ganlyniad ymchwiliad chwe mis gan swyddogion Gogledd Cymru ac Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol y Gogledd Orllewin (NWROCU).
"Mae'r ymchwiliad wedi rhoi cudd-wybodaeth werthfawr ar sut y mae'r gangiau hyn y gweithredu a bydd yn ein galluogi ni i barhau i darfu ar rwydweithiau sy'n delio â chyffuriau yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.
“Mae'r dedfrydau hyn yn dangos ein hymrwymiad i atal cyflenwad cyffuriau Llinellau Cyffuriau i Ogledd Cymru a dylai atal unrhyw un sy'n ystyried ymwneud â chyffuriau anghyfreithiol.
"Mae hefyd yn anfon neges glir i Grwpiau Troseddau Trefnedig na wnawn oddef cyflenwi cyffuriau yng Ngogledd Cymru, a gall y rhai sy'n gwneud hynny ddisgwyl cosbau llym pan fyddant yn cael eu dal.
“Bydd taclo cyflenwad cyffuriau yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru a gobeithiaf y bydd y dedfrydau hyn yn tawelu meddyliau'r cyhoedd."
Mae manylion pawb a ddedfrydwyd i'w gweld isod, ynghyd â'u dedfrydau.
James Hill, 22, o Partington Avenue, Bootle (3 blynedd, 3 mis)
Harry Gray, 19, o Kingswood Boulevard, Higher Bebington (3 blynedd, 9 mis)
Peter Bevan, 38, o Pen Y Llan Street, Cei Conna (3 blynedd)
Dean Ashfield, 23 o Central Drive, Shotton (3 blynedd, 11 mis)
Charlotte Holly Johnson, 37, o Riverside Park, Garden City (2 flynedd, 2 fis)
Chad Stagg, 26, o Chester Road West, Queensferry (1 flwyddyn, 10 mis)
Lee Edwards, 27, o Riverside Park, Garden City (4 blynedd)
Liam Wignall, 30 o Nequay Close, Brookvale, Runcorn (3 blynedd, 8 mis)
Nathan Higgins, 30, o East Parade, y Rhyl (3 blynedd, 8 mis)
(Llun,o'r chwith i'r dde: James Hill, Chad Stagg, Charlotte Holly Johnson, Harry Gray, Dean Ashfield, Lee Edwards, Liam Wignall, Nathan Higgins, Peter Bevan)