Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:15 20/07/2022
Yn ddiweddar, cynhaliodd SCCH Helen Holden o Orsaf Heddlu'r Wyddgrug gystadleuaeth poster i ddisgyblion Ysgol Derwenfa yng Nghoed-llai i helpu i fynd i'r afael â goryrru drwy'r pentref. Gofynnwyd i'r disgyblion ddylunio poster wedi'i anelu at fodurwyr i'w hatgoffa o'r terfyn cyflymder a pheryglon goryrru, yn enwedig y tu allan i'w hysgol.
Enillwyr y gystadleuaeth; Derbyniodd Tiana a Mia gardiau rhodd a bydd eu posteri buddugol yn cael eu gwneud yn arwyddion a fydd yn cael eu gosod o amgylch y pentref.
Dywedodd SCCH Holden "Fel y SCCH lleol ar gyfer Coed-llai, roeddwn yn pryderu am nifer y preswylwyr sy'n riportio cerbydau sy'n gyrru dros y terfyn cyflymder yn y pentref ac o'i amgylch. Pentref bychan yw Coed-llai ond mae tagfeydd mewn mannau sy'n golygu y gallai canlyniadau gyrru ar gyflymder gormodol fod yn drychinebus.
Fel aelod o'r Tîm Plismona’r Gymdogaeth, mae'n rhan hanfodol o'm rôl i weithio ochr yn ochr â'r gymuned, ac felly gofynnais i'r disgyblion fy helpu i godi ymwybyddiaeth o'r mater drwy gynnal y gystadleuaeth poster. Roedd y disgyblion yn croesawu'r syniad yn fawr - roedd y ceisiadau mor dda doeddwn i ddim yn gallu dewis un enillydd yn unig, felly dewisais ddau!
Gyda chymorth cyllid gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), mae'r ceisiadau buddugol bellach wedi'u gwneud yn arwyddion a fydd yn cael eu harddangos o amgylch y pentref a gobeithio y byddant yn gwneud i yrwyr feddwl ddwywaith cyn gyrru ar gyflymder gormodol."
Yn ogystal â'r posteri gwych gan Tiana a Mia, bydd Tîm Plismona’r Gymdogaeth De Sir y Fflint hefyd yn cynnal mwy o wiriadau cyflymder yn y pentref er mwyn atal modurwyr rhag goryrru.