Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth i ni fwrw goleuni ar effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar bobl ifanc heddiw, rydym yn amlygu ymgyrch arobryn, wedi'i lansio gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn mewn ymgais i ffrwyno gwahaniaethu.
Lansiwyd yr ymgyrch, o'r enw 'Mae'n gyfrifoldeb i mi', gan bedwar disgybl i ymdrin â phob math o wahaniaethu o fewn yr ysgol ac yn y gymuned.
Daeth yn dilyn sgwrs rhwng Ameera Ahmed, disgybl ysbrydoledig, a dirprwy bennaeth yr ysgol pan wnaeth Ameera godi ei phryderon ynghylch gwahaniaethu a throsedd casineb yn yr ysgol a'r gymuned ehangach.
Gofynnodd i staff wneud mwy i fynd i'r afael â hyn.
Fe ymunodd Karly Larkin, Beth Rhodes a Morgan Wall (cyd-ddisgyblion) ag Ameera. Maent i gyd wedi cymell newid ac wedi bod yn ffordd o ddangos ymroddiad yr ysgol i gael gwared ar wahaniaethu a chreu newid cadarnhaol.
Dywedodd Ameera, Karly, Beth a Morgan: "Fel grŵp, rydym eisiau ysgol sydd heb fod yn hiliol o gwbl a chymuned sydd ddim yn gwahaniaethu.
"Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni weithio arno dros amser. Rydym eisiau lleihau'r ymddygiad ac iaith wahaniaethol sy'n cael ei ddefnyddio weithiau.
"Rydym eisiau cynorthwyo i addysgu ac ysbrydoli holl aelodau ein hysgol a chymuned i gynorthwyo i ddathlu amrywiaeth.
"Rydym yn credu ei bod yn hynod bwysig i werthfawrogi amrywiaeth a chreu awyrgylch o gymorth yn yr ysgol a'r gymuned lle herir rhagfarn."
Ers hynny, maent wedi'u cydnabod am eu gwaith yng Ngwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a gynhaliwyd ym mis Mehefin, lle gwnaethant ennill 'Gwobr Pobl Ifanc', ar ôl cael eu henwebu gan Mel Cartledge-Davis, Swyddog Ymgysylltiad ac Ymyriad Ieuenctid,.
Dywedodd y Swyddog Cartledge-Davis: "Roedd yn fraint fawr gallu enwebu'r ymgyrch 'Gwahaniaethu, mae'n gyfrifoldeb i mi' ar gyfer Gwobr Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
"Mae'r pedwar disgybl hyn wedi dangos ymroddiad a chymhelliad i effeithio newid go iawn yn eu hysgol a'u cymuned. Maent yn bobl ifanc rhyfeddol sy'n haeddu'r gydnabyddiaeth maent wedi'i derbyn yn llwyr."
Ers lansio'r fenter, mae'r ysgol bellach wedi ymgorffori gwers newydd o fewn cwricwlwm yr ysgol wedi ei anelu at fynd i'r afael â gwahaniaethu, rhagfarn a bwlio.
Dywedodd Neil Foley, pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn: "Mae'r myfyrwyr hyn wedi bod yn ceisio gwneud ein cymuned yn lle gwell, wrth baratoi ar gyfer eu TGAU ar yr un pryd. Maent yn ymroddedig ac yn awyddus i effeithio newid.
"Mae gweithio gyda'r myfyrwyr anhygoel hyn yn fraint lwyr. Ni allwn bwysleisio digon pa mor wych ydy'r bobl ifanc mewn gwirionedd.
"Maent yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith, ac rydym mor falch ohonynt. Dylai'r gymuned leol wybod pa mor gwbl ysbrydoledig ydy pobl ifanc."
#WythnosYmwybyddiaethASB