Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menter gymunedol newydd sy'n cynnwys swyddogion Heddlu Gogledd Cymru ac arweinwyr ffydd yn anelu at greu Wrecsam mwy unedig.
Mae cynlluniau i ddod â holl arweinwyr ffydd y dref at ei gilydd mewn fforwm trafod gyda'r heddlu yn awr mewn lle, gyda dyddiad a lleoliad bellach wedi'i gadarnhau.
Bydd y cyfarfod cyntaf yn digwydd ar 11 Chwefror yn yr hyb cymunedol Yellow and Blue ar Stryt Henblas.
Mae aelodau o fosg Wrecsam, yr Eglwys Gatholig, Eglwys Loegr a'r gymuned Bwylaidd i gyd wedi'u gwahodd i gyfarfod â swyddogion lleol.
Mae'r Rhingyll Dave Smith wedi arwain y fenter ac mae'n gobeithio y gall gryfhau cydlyniant o fewn y dref.
Dywedodd: "Rydym wedi cysylltu â'r holl arweinwyr ffydd yng nghanol y dref gyda'r nod o'u cael i gyd gyda'i gilydd am drafodaeth anffurfiol.
"Rydym eisiau i hyn fod yn gylch trafod lle clywir llais pawb. Dylai ein cynorthwyo ni ddeall safbwyntiau pawb yn well ar fywyd yn y dref ac ymdrin â'u hanghenion.
"Mae'n bwysig ein bod yn gwrando ar unrhyw bryderon maent efallai eisiau ei godi o ran yr hyn sy'n digwydd o fewn eu cymunedau.
"Y gobaith ydy y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd i wneud Wrecsam yn lle gwell i fyw a chryfhau'r cysylltiadau cymunedol hynny.
"Mae hyn hefyd ynghylch chwalu'r camsyniadau hynny sydd gan rai pobl am yr heddlu a'r gwaith rydym yn ei wneud.
“Rydym yn cydnabod y gall credoau a gwerthoedd amrywio llawer rhwng cymunedau ac y bydd gan rai pobl ddiffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu am ryw reswm neu gilydd.
"Rydym yn gobeithio y gall y fenter hon agor ychydig o ddrysau i ni mewn cymunedau lle mae wedi bod yn anoddach i ni'n hanesyddol eu cyrraedd o ran ein negeseuon.
"Mae'r bobl hynny rydym wedi'u gwahodd yn arweinwyr ffydd uchel eu parch ac fe wrandewir arnynt. Mae ynghylch cynyddu eu hymddiriedaeth a'u hyder yn yr heddlu a'u hysbysu ein bod yma i wrando ac ystyried eu safbwyntiau."
Mae gwahoddiadau i'r digwyddiad wedi'u hestyn i holl arweinwyr ffydd o fewn canol tref Wrecsam.
Os yn llwyddiannus, cyflwynir y fenter ledled ardal ehangach cyffiniau Wrecsam yn hwyrach yn y flwyddyn.