Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae CPD Gorsaf Heddlu Tref Wrecsam yn ôl y penwythnos hwn mewn gêm gymunedol arall.
Yn dilyn llwyddiant yn erbyn CPD Bellevue, bydd y swyddogion rŵan yn wynebu Cynhwysiant Wrecsam yn eu hail gêm gyfeillgar.
Bydd Parc y Glowyr, sy'n drawiadol, unwaith eto'n gartref i'r gêm ddydd Sadwrn, a fydd hefyd yn cael ei ffrydio i gynulleidfa ar-lein.
Mae'r Rhingyll Dave Smith yn credu y gwnaiff y gêm gryfhau cysylltiadau rhwng swyddogion Wrecsam a'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
Dywedodd: "Roedd gem Bellevue yn ddiwrnod gwych i bawb ynghlwm. Fe'i chwaraewyd yn yr ysbryd iawn am y 90 munud i gyd.
"Nod y fenter ymgysylltu cymunedol hon erioed ydy creu cysylltiadau cryfach rhyngom ni ein hunain a phobl Wrecsam.
"Rwyf yn teimlo ein bod wedi gwneud cynnydd mawr o ran hynny gyda gem Bellevue a rŵan rydym eisiau ychwanegu at hynny yn y gêm nesaf hon.
"Mae Cynhwysiant Wrecsam yn glwb y mae eu staff yn gwneud cymaint o ddaioni yng nghymuned y dref gyda'u polisïau cynhwysiant ac amrywiaeth.
"Ar lefel bersonol, ni allaf ddisgwyl bod yn rhan o'r gêm ar ôl methu'r gêm ddiwethaf oherwydd COVID.
"Rydym mor ddiolchgar i Gymdeithas Bêl Droed Cymru a Lucy Scott (Rheolwr Cyfleusterau Parc y Glowyr) am ganiatáu i ni ddefnyddio'r lleoliad ar gyfer y gemau hyn.
"Mae'n wych clywed fod Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i ymgais Wrecsam ar fod yn Ddinas Diwylliant yn ystod ein gêm.
CPD Cynhwysiant Wrecsam ydy'r clwb pêl droed iechyd meddwl ac anabledd mwyaf yng Nghymru.
Gyda thros 100 o chwaraewyr o fewn timau ieuenctid ac oedolion y sefydliad, mae'r clwb yn chwarae gemau wythnosol yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc.
Dywedodd Wayne Greenshields, Rheolwr Cyffredinol CPD Cynhwysiant Wrecsam: "Fel clwb cynhwysol rydym yn teithio ledled y DU yn chwarae yn erbyn clybiau pêl droed iechyd meddwl ac anabledd eraill.
"Rydym yn cynorthwyo pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi profi tlodi ac amddifadedd, ynysu cymdeithasol, problemau camddefnyddio sylweddau, digartrefedd, ynghyd â phobl gydag anableddau a phroblemau iechyd meddwl.
"Rydym yn teimlo fod hwn yn gyfle gwych i'n clwb, i'r swyddogion heddlu, ac i dref Wrecsam weld sut mae cynhwysiant a diwylliant yn gweithio law yn llaw.
"Gyda'r gêm yn cael ei ffrydio i gynulleidfa ar-lein, gall hefyd agor llygaid a barn pobl i amrywiaeth ein tref hyfryd."
Bydd tîm darlledu Calon FM yn sylwebu ar y gêm, sy'n dechrau am 10yb.
Daw'r cyllid ar gyfer ffrydio byw, gan ORB, o ymgais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant 2025.
Bydd cynnal Dinas Diwylliant yn cynnig llwyfan i gymunedau nad ydynt fel arfer yn cael llais nac yn cael cyfle i ddweud eu stori. Byddai'n golygu y byddai Wrecsam yn ganolbwynt diwylliant yn y DU yn 2025.
Mae'r gystadleuaeth yn defnyddio diwylliant i roi cymorth teg i bob ardal yn y DU, gan roi mwy o gyfleoedd i'r ardal buddugol.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ar ymgais Wrecsam chwiliwch am #tag #Wrecsam2025 ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y gem yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig, gyda ffrydio byw ar gael i'w weld ar dudalen Facebook Wrecsam2025 (www.facebook.com/wrecsam2025) neu drwy'r ddolen ganlynol: https://www.evt.live/inclusionvpolice o 10yb ar ddydd Sadwrn, 5 Chwefror.