Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion heddlu Wrecsam yn cefnogi ymgyrch cais Dinas Diwylliant 2025 yr ardal.
Mae'r gefnogaeth yn dilyn gêm gyntaf Gorsaf Heddlu Tref Wrecsam ym Mharc y Glowyr, gyda'r tîm y tu ôl i'r cais yn cefnogi'r ffrydiad byw y gêm ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fel cefnogwyr yr ymgyrch bydd y swyddogion yn hyrwyddo'r manteision o fod yn Ddinas Diwylliant y DU mewn sgyrsiau gyda chydweithwyr, ffrindiau, teulu a'r cyhoedd.
Dywedodd Rhingyll Dave Smith o Wrecsam: “I ni, mae hyn yn brosiect ardderchog sydd â budd i Wrecsam yn ei chalon.
“Rydym wedi gweld llefydd eraill yn y DU yn elwa o ennill statws Dinas Diwylliant. Dinasoedd fel Hull lle bu buddsoddi mawr a wnaeth godi proffil y ddinas.
"Gallai buddsoddiadau newydd yn sgil cael statws Dinas Diwylliant roi bywyd newydd i'r dref.
“Fel swyddogion rydym yn ceisio gwella ein perthynas waith gyda phawb yn Wrecsam. Rwyf yn teimlo bod mentrau ymgysylltu â'r gymuned yn ein helpu i chwalu rhwystrau rhyngom ni a'r cyhoedd.
“Mae'r cais am Ddinas Diwylliant yn rhywbeth a allai wella bywydau nifer o bobl sy'n byw yn yr ardal, felly rydym yn cefnogi'r ymgyrch."
Dyma’r tro cyntaf i gais Dinas Diwylliant y DU fod ar agor i drefi ac ardaloedd yn ogystal â dinasoedd.
Bydd cynnal Dinas Diwylliant yn cynnig llwyfan i gymunedau nad ydynt fel arfer yn cael llais nac yn cael cyfle i ddweud eu stori.
Byddai'n golygu y byddai Wrecsam yn ganolbwynt diwylliant yn y DU yn 2025.
Mae'r gystadleuaeth yn defnyddio diwylliant i roi cymorth teg i bob ardal yn y DU, gan roi mwy o gyfleoedd i'r ardal buddugol.
Mae Wrecsam eisoes ar restr fer yr wyth olaf, a hi yw'r unig dref yng Nghymru sydd ar ôl yn y gystadleuaeth.