Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae manylion ffrydio gem gyntaf CPD Gorsaf Heddlu Tref Wrecsam ym Mharc y Glowyr wedi ei gadarnhau.
Bydd gêm gyntaf y swyddogion yn erbyn CPD Bellevue am 10.30am ar 22 Ionawr, gyda'r gêm i'w chynnal ar gae 3G trawiadol.
Ac er na fydd torf yno i weld y gêm bydd modd edrych arni yn ddigidol.
Mae'r tîm yn cynnwys dynion a menywod i geisio creu undod rhwng swyddogion a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Er ei fod yn siomedig na fydd torf yno i edrych ar y gêm, mae Rhingyll Dave Smith wrth ei fodd y bydd y gem yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
Dywedodd: "Mi fuasai hi wedi bod yn wych i gael pobl yn gwylio ein gem cyntaf ond roedd daeth codi'r cyfyngiadau Covid yng Nghymru braidd yn hwyr i ni allu cynllunio pethau.
"Mae ffrydio'r gêm yn ddewis amgen ardderchog sy’n rhoi cyfle i lawer mwy o bobl weld y gêm.
"Fel swyddogion rydym am wella ein perthynas gyda'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethau ac i chwalu unrhyw gamddealltwriaeth sydd gan rai pobl am yr heddlu.
“Mae hwn yn ffordd wych i'n helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at y gêm ac yn methu aros i fynd allan i chwarae ar gae ffantastig."
I ychwanegu at eu gwaith da o fewn y gymuned cymerodd CP Bellevue gam ymlaen yn ddiweddar pan gytunodd y clwb i ddod yn rhanddeiliaid yn ymgyrch Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant 2025.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn gwaith clodwiw ym maes cynhwysiant gyda phobl o gefndiroedd anodd, yn ogystal â ffoaduriaid, ceiswyr lloched a mewnfudwyr economaidd.
Bydd criw ffilmio o S4C yn bresennol ar gyfer y gêm, ynghyd â Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Maer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince - a fydd yn gwylio o'r cyrion.
Daw'r cyllid ar gyfer ffrydio byw o ymgyrch Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2025.
Mae cynnal Dinas Diwylliant yn gyfle i gymunedau nad ydynt fel arfer yn cael llais nac yn cael cyfle i ddweud eu stori. Byddai'n golygu y byddai Wrecsam yn ganolbwynt diwylliant yn y DU yn 2025.
Mae'r gystadleuaeth yn defnyddio diwylliant i roi cymorth i ardaloedd yn y DU, gan roi mwy o gyfleoedd i'r ardal buddugol.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ar ymgais Wrecsam chwiliwch am #tag #Wrecsam2025 ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd ffrydio ar gael drwy Facebook o 10.30am ddydd Sadwrn: bellevuevpolice | EventLive (evt.live)