Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:32 07/01/2022
Mae Luke Daniel Williams, 24, o Benycae heddiw wedi’i garcharu yn dilyn ei wrandawiad dedfrydu yn y llys heddiw.
Yn ystod ei achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug, roedd Williams wedi gwadu llofruddiaeth ond wedi pledio'n euog i ddynladdiad yn dilyn marwolaeth Karl Saffy llynedd.
Bu farw Mr Saffy, a oedd yn daid 57 oed, yn yr ysbyty ar 23 Awst 2021 yn dilyn ffrae mewn cyfeiriad yng Nghristionydd, Penycae.
Y bore yma carcharwyd Williams am chwech flynyddoedd gan y Barnwr Rhys Rowlands yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, DCI Alun Oldfield: "Mae ein cydymdeimlad twymgalon yn parhau gyda theulu a ffrindiau Mr Saffy yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.
"Er bydd rhaid i Williams bellach wynebu'r hyn a wnaeth yn y carchar, ni all yr un ddedfryd wneud yn iawn am golled bywyd a'r gofid mae wedi'i achosi."