Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru eisiau clywed am yr hyn sy'n bwysig i chi.
Mae Gogledd Cymru'n Siarad yn fenter fawr sy'n cael ei lansio gan Heddlu Gogledd Cymru. Mae hon yn flaenoriaeth bwysig i'n Timau Plismona Cymdogaethau, sy'n anelu i ddeall pryderon trosedd ac anrhefn ein cymunedau lleol ledled Gogledd Cymru.
Hoffem i chi gymryd eiliad i gwblhau ein harolwg byr am sut y mae hi i fyw yn eich ardal chi a pha broblemau sy'n bwysig i chi a'ch cymuned. Mae hefyd yn gyfle i chi godi unrhyw bryderon sydd gennych.
Bydd eich adborth a dderbynnir drwy Gogledd Cymru'n Siarad yn galluogi Timau Plismona Cymdogaethau, ynghyd ag asiantaethau partner, i weithredu ar y wybodaeth a dderbynnir. Eir i'r afael â'r problemau a godir sydd o'r pwys mwyaf i'n cymunedau. Wrth wneud hynny, rydych yn cael llais o ran sut y blaenoriaethir gweithgarwch Plismona Cymdogaethau.
Gallwch hefyd ddewis cofrestru ar gyfer Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru – ein system negeseuon cymunedol lle byddwch yna'n derbyn diweddariadau gan eich Tîm Plismona Cymdogaethau ar yr hyn sy'n cael ei wneud i ymdrin â'r tair problem gymunedol leol fwyaf. Mantais fawr y system hon ydy ei bod yn caniatáu i chi hysbysu Heddlu Gogledd Cymru am eich problemau. Ond yn ei dro, rydym yn gallu eich hysbysu am sut rydym yn bwriadu ymdrin â'r problemau rydych wedi'u codi. Gallwn hefyd eich diweddaru gyda gwybodaeth o ran trosedd ac anrhefn sy'n digwydd yn eich cymdogaeth. Gallwn roi cyngor atal trosedd i'ch cynorthwyo chi osgoi dioddef trosedd."
Dywedodd yr Uwcharolygydd Helen Corcoran:
"Mae ein Timau Plismona Cymdogaethau eisiau sicrhau ein bod yn ymdrin â'r pethau sy'n bwysig i'r rhai rydym yn eu gwasanaethu – chi. Bydd Gogledd Cymru'n Siarad yn rhoi'r cyfle i drigolion ddweud wrthym ni am ba broblemau sydd bwysicaf iddyn nhw yn eu cymuned leol. Gall fod yn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n eich poeni chi, neu efallai eich bod â gwybodaeth i'w drosglwyddo am werthu cyffuriau yn eich ardal leol.
Mae ein cymunedau'n chwarae rhan hanfodol wrth ein cynorthwyo i atal a chanfod trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU i fyw, gweithio ac ymweld ag o.
Rydym eisiau eich adborth chi y gwnawn ei ddefnyddio i gynorthwyo i nodi'r tair prif broblem yn eich ardal y gwnaiff ein Timau Plismona Cymdogaethau weithio arnynt dros y misoedd nesaf.
Buaswn hefyd yn eich annog i gofrestru ar gyfer Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru wrth gwblhau'r arolwg. Byddwch yna'n derbyn diweddariadau gan eich Tîm Plismona Cymdogaethau ar yr hyn sy'n cael ei wneud i ymdrin â phroblemau lleol y gymuned.
Er mwyn cymryd rhan a bod yn rhan o'r sgwrs, ewch ar: www.northwalestalking.co.uk neu www.gogleddcymrunsiarad.co.uk ar gyfer ein harolwg yn Gymraeg.
Rhannwch hwn gyda'ch teulu, eich ffrindiau a'ch cydweithwyr fel y gallent ddweud eu dweud