Stamp amser presennol: 18/07/25 09:16:52
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

Ymosodiadau ar swyddogion Heddlu Gogledd Cymru

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 15:20 07/02/22

Mae nifer o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru sy'n gweithio yn Rhanbarth y Dwyrain wedi dioddef trais dros y penwythnos.

Bu adroddiadau unwaith eto o ymosodiadau difrifol yn Wrecsam a Sir y Fflint ar swyddogion gwrywaidd a benywaidd.

Mae'r digwyddiadau hyn yn dilyn tuedd genedlaethol sydd wedi gweld cynnydd mewn ymosodiadau ar weithwyr brys yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Toc cyn 11pm neithiwr (6 Chwefror) derbyniwyd adroddiad o ddynion yn ymddwyn yn dreisgar yn nhafarn y Pentan yn yr Wyddgrug.

Ymosodwyd ar swyddogion a aeth yno i geisio dal yr un o dan amheuaeth o drais.

Cafodd un swyddog benywaidd ei chicio yn ei hwyneb a chafodd ei chleisio tra bu'r un o dan amheuaeth yn poeri ar y swyddog gwrywaidd.

Arestiwyd dyn 24 oed am ymosod ac am droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Ar ddydd Gwener (4 Chwefror) clywodd swyddogion am ymladd rhwng dynion y tu allan i'r Hampden Arms yn Acrefair.

Wrth arestio dyn, cafodd swyddog ei daro yn ei wyneb a chafodd anafiadau i'w goesau o ganlyniad i'r ymosodiad.

Yn oriau mân fore dydd Sul (6 Chwefror), gwelwyd dyn yn achosi difrod troseddol ar Abbot Street yn Wrecsam a cheisiodd daro'r swyddog a oedd yn ei arestio gyda'i ben.

Wrth adlewyrchu ar benwythnos arall o ymosodiadau annerbyniol ar ei swyddogion, dywedodd yr Uwcharolygydd Nick Evans: “Nid yw'r digwyddiadau hyn yn anarferol, yn enwedig yn yr ardal hon, ac nid yw'n wahanol i unrhyw benwythnos arall.

"Roedd hwn yn benwythnos gweddol dawel mewn cyfnod tawel yn y flwyddyn. 

"Mae'r ymosodiadau hyn yn digwydd yn aml ac am y rheswm hwn mae'n bwysig ein bod yn atgoffa ein hunain ac eraill nad yw hyn yn rhan o'r swydd.

"Mae ymosod ar swyddog neu unrhyw weithiwr o'r gwasanaethau brys yn annerbyniol bob amser.

"Mae swyddogion yn wydn ac yn wynebu perygl a gwaith annifyr yn ddyddiol. Parhaodd y swyddogion i fod ar ddyletswydd drwy gydol y penwythnos ac nid ydynt yn mynd i gymryd seibiant cyn dychwelyd i'w shifft nesaf.

"Mae hwn yn rhywbeth dw i'n gweld yn gyson ac yn brawf o ymroddiad y swyddogion at wasanaethu'r cyhoedd.

"Serch hynny, dw i'n sicr y bydd y swyddogion hyn a'u teuluoedd yn fwy pryderus am eu diogelwch wrth fynd i'r gwaith yn y dyfodol. 

"Felly dw i'n apelio ar y cyhoedd i gefnogi swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu sy'n wynebu perygl o ddydd i ddydd er mwyn eich helpu chi.

"Ymunwch â mi yn herio unrhyw drais tuag at weithwyr y gwasanaethau brys, gan gofio mai'r "heddlu yw'r cyhoedd a'r cyhoedd yw'r heddlu".

Dywedodd Mark Jones, Ysgrifennydd a Thrysorydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru hefyd:"Fel pob gwasanaeth brys arall, mae swyddogion heddlu yn gweithio bob dydd i helpu'r cyhoedd gan wynebu perygl pan fydd eraill yn rhedeg i ffwrdd.

"Pan fydd rhywun yn ymosod ar swyddog, aelod o staff neu wirfoddolwr yr heddlu wrth eu gwaith mae'n cael effaith andwyol.

“Mae'n ymosodiad ar y gymdeithas gyfan. Y tu ôl i'r lifrau mae bod dynol; mam, tad, mab, merch, brawd neu chwaer.

"Mae'r creithiau, yn gorfforol ac yn feddyliol yn gallu para am byth yn dilyn ymosodiad ac felly rydym yn mynnu bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael dedfryd lem."

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024​. Cedwir pob hawl.