Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd mesurau diogelwch yn cynyddu ar safle rhandir yn Wrecsam yn dilyn cyfres o droseddau yn ddiweddar.
Mae'r rhandir Ffordd Erddig, sy'n cael ei redeg gan y Cyngor wedi cael ei dargedu fwy na dwsin o weithiau yn ystod y misoedd diwethaf gydag offer a llysiau yn cael eu dwyn, pob yn torri i mewn i siediau a difrod troseddol yn cael ei riportio.
O ganlyniad, mae camerâu CCC a golau ychwanegol wedi cael eu gosod yn y rhandir gyda larymau yn cael eu gosod ar siediau mewn ymgais i atal unrhyw droseddau pellach.
Bydd y cyngor hefyd yn paentio ffensys gyda phaen gwrth-fandaliaeth - paent trwchus, gludiog wedi ei gynllunio i ddiogelu eiddo rhag tresmaswyr - yn ogystal â chodi gatiau a ffensys uwch o gwmpas y safle.
Bydd brigau hefyd yn cael eu torri i atal pobl rhag dringo i mewn.
Ddoe, cynhaliwyd digwyddiad atal troseddau ar y safle gan SCCH John Davies ynghyd â swyddog rhandiroedd Cyngor Wrecsam, Nicola Ellis, a rhoddwyd larymau a chloeon i ddeiliad y rhandiroedd.
Dywedodd SCCH Davies: “Mae lladradau yn parhau i fod yn broblem yn rhandir Ffordd Erddig, a dyna pam rydym wedi bod yn gweithio gyda'r deiliaid er mwyn gwella ymwybyddiaeth ar y safle.
"Yn ystod Hydref a Thachwedd, derbyniwyd 14 adroddiad o ladradau a difrod troseddol ar y safle.
“O ganlyniad, bydd patrolau yn digwydd ar y safle yn rheolaidd, ddydd a nos.
“Bydd y troseddau hyn i weld yn rhai dibwys i rai ond rwyf yn ymwybodol o'r effaith y maent yn cael ar y deiliad, sy'n gweithio'n galed ar y safle.”
Cyngor ar atal troseddau
Siediau a Thai Allan
Golau
Perimedr
Larymau
Arwyddion