Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:57 05/12/2022
Bydd swyddogion yn patrolio ardaloedd yn ystod gyda'r nos ac yn cynnig cyngor atal trosedd er mwyn gwarchod trigolion oedrannus a bregus rhag byrgleriaethau'r cyfnos.
Fe ddaw yn rhan o Ymgyrch Blue Instinct sydd wedi lansio'n ddiweddar yng Ngogledd Sir y Fflint, yn dilyn ei lwyddiant yn Nhref Wrecsam.
Mae'r ymgyrch amlasiantaethau yn canolbwyntio ar addysg ac yn anelu lleihau dioddefwyr a thargedu'r bobl hynny sy'n niweidio cymunedau fwyaf.
Cynhelir digwyddiadau ymgysylltu ledled yr ardal dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf er mwyn rhoi cyngor a chymorth. Bydd swyddogion hefyd yn gadael taflenni mewn cartrefi sydd yn edrych yn wag.
Dywedodd David Smith, Rhingyll Patrôl Gogledd Sir y Fflint: "Nod Ymgyrch Blue Instinct ydy atal byrgleriaethau a gwarchod trigolion bregus drwy leihau dioddefwyr a thargedu'r bobl hynny sy'n niweidio ein cymuned fwyaf.
"Mae byrgleriaethau yn tresbasu preifatrwydd go iawn. Gallent effeithio pobl yn ddrwg. Dyna pam rydym yn gwneud yr oll a allwn er mwyn atal y mathau hynny o drosedd.
"Gofynnwn i drigolion gymryd camau syml ond effeithiol er mwyn gwarchod eu heiddo.
"Atal ydy Ymgyrch Blue Vigilant yn bennaf – po fwyaf mae pobl yn ymwybodol ac yn wyliadwrus, llai o gyfle fydd i ladron weld eu cyfle."
Bydd yr ymgyrch yn gweithio ar y cyd ag Ymgyrch Blue Lolite, menter wedi'i llunio i nodi a gwarchod trigolion a chartrefi bregus yn ardal Gogledd Sir y Fflint.
Ychwanegodd y Rhingyll Smith: "Gwnewch eich cartref yn rhywle lle nad ydy lladron eisiau mynd iddo."
Am fwy o gyngor a gwybodaeth ar sut i atal trosedd, ewch ar ein gwefan yma: https://www.northwales.police.uk/cp/crime-prevention/
Am y wybodaeth ddiweddaraf am drosedd, digwyddiadau ymgysylltu, apeliadau, cyngor ar atal a gweithgarwch plismona cyffredinol yn eich ardal, cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth negeseuon rhybuddion cymunedol yma: https://www.northwalescommunityalert.co.uk/
Er mwyn gofalu am eich cymdogion a chynorthwyo gwneud eich stryd yn lle mwy diogel i fyw, gallwch hefyd ymuno a chynllun gwarchod y gymdogaeth, yma: https://www.ourwatch.org.uk/