Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyda chalon drom, rydym yn rhannu'r newyddion fod Heddlu Gogledd Cymru a Thîm Wrecsam Wledig wedi colli cydweithiwr annwyl iawn.
Credir fod PC Ryan Donaldson wedi cymryd ei fywyd brynhawn ddoe oddi ar ddyletswydd.
Roedd Ryan, 31, a oedd yn byw yn Wrecsam ond a oedd yn wreiddiol o Bwcle, wedi bod yn rhan o Dîm Wrecsam Wledig ers 2018.
Mae'n gadael ei fam Linda, ei dad Barry a'i chwaer Cara.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Ar ran yr heddlu, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Ryan yn y cyfnod hynod anodd hwn.
"Roedd Ryan yn aelod hoffus o'r tîm a bydd colled fawr ar ei ôl. Bydd hyn wedi effeithio'n fawr ar lawer o bobl o fewn yr heddlu, ac rydym yn cynorthwyo teulu a chydweithwyr Ryan."
Dywedodd teulu Ryan ei fod yn hoffi cymdeithasu gyda ffrindiau o ardal Bwcle a'i gydweithwyr ar yr un rota.
Gwnaethant ddweud: "Roedd Ryan yn fab a brawd hoffus a fydd yn cael ei golli'n fawr. Roedd yn hynod falch o wasanaethu gyda Heddlu Gogledd Cymru. Roedd yn hoffi bod yn swyddog heddlu. Fel teulu, rydym mor falch o'r hyn wnaeth ei gyflawni."
Gofynnwn i'r cyfryngau barchu preifatrwydd y teulu. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau pellach ar hyn o bryd.