Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion wedi gwneud 70 o arestiadau fel rhan o ymgyrch Nadolig Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau.
*Ers cychwyn yr ymgyrch ar 1 Rhagfyr, mae swyddogion wedi gwneud 43 o arestiadau am yrru ar gyffuriau a 27 o arestiadau am yfed a gyrru ar draws y rhanbarth.
Lefel uchaf yr ymgyrch hyd yn hyn yw 114 (y terfyn cyfreithiol yw 35) lle arestiwyd dyn 40 oed o ardal Betws-yn-Rhos, Conwy ger Llanfairtalhaiarn toc ar ôl 9pm ar 14 Rhagfyr yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd. Mae eisoes wedi cael ei gyhuddo ac mi fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ar 9 Ionawr.
Cafwyd darlleniad uchel iawn arall ar yr un diwrnod gan ddynes 42 oed ar ôl iddi gael ei stopio gan yr heddlu ger Dobshill toc ar ôl 6pm. Cafodd ei harestio ar amheuaeth o yfed a gyrru. Fodd bynnag, fe wrthododd ddarparu prawf anadl yn y ddalfa ac mae hi eisoes wedi cael ei chyhuddo o fethu â darparu prawf anadl a bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon yr Wyddgrug ar 5 Ionawr.
Mae pawb sydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o yrru ar gyffuriau rŵan hefo amser pryderus o’u blaenau wrth iddynt ddisgwyl canlyniadau profion pellach. Os byddent yn cael eu heuogfarnu o yrru ar gyffuriau, gallent wynebu gael eu gwahardd rhag gyrru, derbyn dirwy, cael eu hanfon i’r carchar a derbyn cofnod troseddol. Nid pawb sydd yn sylweddoli chwaith bod hyn yn arwain at gostau yswiriant uwch a’r posibilrwydd o fethu â theithio i wledydd megis UDA.
Dywedodd y Rhingyll Liam Morris o’r Uned Plismona Ffyrdd: “Nid yn unig mae gyrru o dan ddylanwad yn drosedd ond mae’n gwbl annerbyniol a hunanol sy’n peryglu bywydau. Mae’r goblygiadau yn anferth – nid yn unig y risg o gael eich lladd neu eich anafu’n ddifrifol ond hefyd y posibilrwydd o golli eich gyrfa, cartref a bywyd teuluol.
“Er gwaethaf ein rhybuddion parhaol ynglŷn â’r peryglon, mae’n siomedig fod rhai yn parhau i risgio bywydau drwy yrru o dan ddylanwad.
“Mae cyffuriau yn effeithio eich meddwl a’ch corff mewn sawl ffordd sy’n golygu na allwch yrru’n ddiogel. Mae eich gallu i yrru yn cael ei effeithio ac mae’r siawns ohonoch yn cael gwrthdrawiad yn cynyddu. Gall yr effeithiau aros am oriau a hyd yn oed dyddiau. Gall gyrru ar gyffuriau arwain at amser ymateb araf, diffyg canolbwyntio, dryswch, blinder a bod yn rhy hyderus sy’n arwain at gymryd mwy o risg wrth yrru. Yr arwyddion yma sy’n tynnu sylw swyddogion sydd ar batrôl.
“Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo diogelu’r ffyrdd i bawb a byddwn yn parhau i dargedu’r rhai sy’n peryglu bywydau. Peidiwch â meddwl bod yr ardal wledig yma yn mynd i’ch gwarchod.
Ychwanegodd y Rhingyll Morris: “Bydd nifer yn mynd allan i fwynhau’r Ŵyl y penwythnos yma a’r un nesaf, felly rydym yn erfyn ar bawb wneud trefniadau ar sut y byddent yn dychwelyd adref yn ddiogel, ac hefyd atgoffa pawb y gallwch barhau fod dros y terfyn cyfreithiol i yrru y bore wedyn.
“Rydym eisiau i bawb fwynhau’r cyfnod yma ac mae hwn yn un o’n hymgyrchoedd pwysicaf. Mae swyddogion allan ar batrôl ac yn cynnal gwiriadau ar ochr y ffyrdd er mwyn sicrhau diogelwch pawb.”
Dilynwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn yr hashnod #5Angheuol a #NadoligDiogel.
Os oes gennych chi wybodaeth am unrhyw un sy’n yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau, cysylltwch â’r heddlu ar unwaith drwy ffonio 101 (999 os yn peryglu bywyd) neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111.
*ystadegau yn gywir hyd at 16 Rhagfyr
Arestiadau gyrru ar gyffuriau fesul sir:
Arestiadau yfed a gyrru fesul sir: