Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:23 03/08/2022
Cynhaliwyd ymgyrch diogelwch ffyrdd yn ardal Penrhyn Llŷn ddydd Llun, 1 Awst, lle cafodd sawl tocyn cosb eu rhoi am droseddau gwregys diogelwch.
Gwnaeth swyddogion o’r Uned Plismona Ffyrdd stopio a siarad hefo sawl modurwr yn ardaloedd Abersoch, Pwllheli a Morfa Bychan fel rhan o ymdrechion parhaus i wella diogelwch ffyrdd.
Bu swyddogion yn gwirio cerbydau ac fe gafodd 30 o docynnau cosb eu rhoi i yrwyr a oedd yn gyrru heb wisgo gwregys diogelwch. Cafodd tocynnau cosb eraill eu dosbarthu am droseddau megis golau a theiars diffygiol, gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol a cheir heb blatiau rhif.
Cafodd carafannau a oedd yn cael eu tynnu hefyd eu gwirio.
Dywedodd y Rhingyll Medwyn Williams o’r Uned Plismona Ffyrdd: “Mae ymgyrchoedd fel hyn yn cael eu cynnal er mwyn diogelu’r ffyrdd.
“Yn un o’r cerbydau a gafodd ei stopio, darganfuwyd plentyn yn eistedd ar lin oedolyn. Eu hesboniad oedd mai dim ond taith fer o’r siop oedd hi. Tydi hyn ddim yn esgus a hysbyswyd yr heddlu am yr unigolyn.
“Fe brofodd ymgyrch dydd Llun fod methu â gwisgo gwregys diogelwch yn parhau i fod yn broblem ar y ffyrdd, ac mae’n siomedig fod nifer yn dewis peryglu eu hunain a phobl eraill.
“Mae gwregysau diogelwch yn arbed bywydau – mae mor syml â hynny. Mae ystadegau cenedlaethol yn dweud wrthym eich bod ddwywaith yn fwy tebygol o gael eich lladd os nad ydych yn gwisgo eich gwregys diogelwch. Fel swyddogion heddlu, rydym yn rhy aml wedi gweld canlyniadau gwrthdrawiadau lle nad oedd pobl yn gwisgo gwregys. Dyma pam rydym allan yn chwilio am yrwyr a theithwyr sydd ddim yn eu gwisgo oherwydd maent yn torri’r gyfraith ac yn peryglu bywydau.
“Fel gyrrwr gallwch wynebu dirwy hyd at £500 a tri phwynt cosb. Os ydych yn cario plentyn o dan 14 oed sydd ddim yn gwisgo gwregys rydych hefyd yn wynebu dirwy o £500 a tri phwynt cosb.
Ychwanegodd y Rhingyll Williams: “Cafodd yr ymgyrch ei chynnal fel rhan o’n hymrwymiad i gadw’r ffyrdd yn ddiogel i bawb. Mi fydd ymgyrchoedd tebyg yn cael eu cynnal mewn mannau eraill yn y dyfodol agos. Fe wnawn barhau i weithredu yn erbyn y rhai sy’n troseddu ar ein ffyrdd.”