Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:13 25/08/2022
Mae beicwyr modur oddi ar y ffordd sy'n defnyddio eu beiciau'n beryglus ac yn anghyfreithlon yn cael eu rhybuddio y byddant yn cael eu hatafaelu fel rhan o fenter ddiweddaraf i Heddlu Gogledd Cymru. Mae hyn er mwyn ymdrin ag adroddiadau cynyddol o feicio gwrthgymdeithasol.
Mae Ymgyrch Blue Takeoff, a grëwyd gan PC Sarah Smith o'r Tîm Rhwystro Rhagweithiol, wedi'i lansio fel rhan o ymgyrch parhaus yr heddlu i ymdrin â defnydd anghyfreithlon beiciau oddi ar y ffordd.
Cynyddodd adroddiadau o drigolion ledled y rhanbarth yn sylweddol dros y misoedd diwethaf ynghylch pryderon am y broblem.
O ganlyniad, ddydd Mawrth, targedodd yr ymgyrch ardaloedd o Sir y Fflint. Mae hyn yn dilyn adroddiadau diweddar fod beicwyr wedi methu stopio i swyddogion yn yr ardal, gyda beiciau oddi ar y ffordd yn cael eu gyrru'n beryglus ar balmantau a thrwy strydoedd cefn.
Hysbyswyd hefyd fod ieuenctid wedi cael eu gweld yn beicio beiciau oddi ar y ffordd yn ardaloedd Cei Connah a Shotton, gyda phobl ifanc fel teithwyr – gyda dim helmedau neu offer gwarchodol.
Lleolwyd swyddogion rhwystro ynghyd â'r tîm beiciau oddi ar y ffordd â'r tîm dronau – sy'n defnyddio dronau sy'n anweledig i'r bobl hynny ar y tir – i ardaloedd penodol a nodwyd yn defnyddio data arbennig er mwyn targedu unrhyw feiciau sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon.
Er na chymerwyd beiciau oddi ar y ffordd, dywedodd yr Arolygydd Matt Subacchi o'r Timau Rhwystrwyr a Dronau ei bod yn ymgyrch lwyddiannus o safbwynt atal, gyda swyddogion yn stopio a gwirio 13 o feiciau modur ynghyd a rhoi cyngor ynghylch diogelwch ffordd.
Dywedodd yr Arolygydd Subacchi: "Mae adroddiadau o feiciau oddi ar y ffordd niwsans yn cael eu gyrru'n anghyfreithlon mewn sawl ardal ledled ardal yr heddlu yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf.
"Prif nod Ymgyrch Blue Takeoff ydy targedu beiciau modur yn beicio'n anghyfreithlon er mwyn atal risg i'r cyhoedd – a'u gwarchod nhw rhag anafiadau angheuol. Gall beiciau oddi ar y ffordd fod yn fygythiad peryglus go iawn i unrhyw aelod o'r cyhoedd yn y cyffiniau ac yn wir y beicwyr eu hunain.
"Rydym yn deall y rhwystredigaeth maent yn ei achosi o fewn ein cymunedau, ac fe wnawn barhau ein hymdrechion i gosbi'r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn.
"I unrhyw un sy'n ystyried defnyddio beiciau oddi ar y ffordd yn wrthgymdeithasol – peidiwch â pheryglu eich bywyd, neu fywydau pobl eraill. Bydd y rhai sydd yn gwneud yn cael eu dal, a bydd eich beic yn cael ei atafaelu.
"Rwyf yn gobeithio y bydd aelodau o'r cyhoedd yn ein cynorthwyo ni hefyd drwy roi gwybodaeth am feiciau oddi ar y ffordd yn eu hardal."
Bydd yr ymgyrch yn parhau dros y misoedd nesaf a bydd yn targedu sawl ardal ledled Gogledd Cymru.
Ychwanegodd Steve Roberts, Arolygydd Gogledd Sir y Fflint: "Rydym yn ymwybodol o'r problemau mae rhai cymunedau'n ei gael gyda'r defnydd anghyfreithlon o feiciau modur oddi ar y ffordd.
"Mewn ymateb, rydym wedi gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn adran y Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol, ac mae Ymgyrch Blue Takeoff wedi'i ddatblygu.
"Yn ystod yr ymgyrch hon ni fyddwn yn ymlid beiciau modur, ond byddwn yn lleoli ein hasedau uwch-dechnoleg a swyddogion gyda sgiliau arbenigol i nodi a lleoli'r beiciau.
"Mae fy neges i'r bobl hynny sy'n defnyddio beiciau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn syml – 'Y tro cyntaf rydych yn gwybod eich bod wedi'ch dal yn beicio eich beic modur yn anghyfreithlon fydd pan fyddwn yn dod a'i atafaelu. Peidiwch â disgwyl i ni ddychwelyd eich beic."