Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog modurwyr i fod yn ofalus ar y ffyrdd ar drothwy penwythnos Gŵyl y Banc.
Gyda'r disgwyl y bydd y ffyrdd yn prysuro wrth i bobl fwynhau penwythnos hir olaf yr haf, mae swyddogion yn annog pawb i gymryd gofal ychwanegol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall o Wasanaeth Cefnogaeth Gweithredol Heddlu Gogledd Cymru: "Yn drist iawn rydym eisoes wedi gweld nifer o wrthdrawiadau angheuol a difrifol ar ffyrdd Gogledd Cymru.
“Rydym yn annog pobl i aros yn ddiogel dros Ŵyl y Banc, sy'n argoeli i fod yn un cynnes. Pan fydd y tywydd yn gynhesach, yn naturiol mae pobl am fwynhau eu hunain y tu allan. Mae hyn yn golygu mwy o draffig ar y ffyrdd - yn cynnwys beiciau modur.
"Rydym yn gwybod bod gyrwyr beiciau modur mewn mwy o beryg o gael eu lladd neu eu hanafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ffordd nag unrhyw un arall sy'n defnyddio'r ffordd, ac yn cynrychioli 1% o ddamweiniau traffig ffyrdd ond yn cynnwys 18% o farwolaethau. Felly ein neges ni yw mwynhewch eich rhyddid ar y ffyrdd yn ddiogel. Mae'n ardal wych i feicwyr, ac rydym eisiau iddynt allu mwynhau'r ardal yn ddiogel.
“Gofynnwn i feicwyr modur a gyrwyr ceir i fod yn ystyrlon ac i atgoffa pobl i feddwl am feicwyr. Dylai gyrwyr roi mwy o amser i feiciau modur a dylai gyrwyr beiciau modur sicrhau eu bod yn gyrru'n ddiogel heb gymryd risg diangen.
"Mae lleihau anafiadau ar ein ffyrdd yn parhau'n un o'n prif flaenoriaethau a rhaid i holl fodurwyr fod yn ymwybodol ein bod i gyd yn gwneud y gorau gallwn i sicrhau fod ein ffyrdd yn cael eu defnyddio'n ddiogel gan bawb. Mae ein timau Plismona Ffyrdd hwnt ac yma a byddant yn parhau i weithredu'n gadarn yn erbyn y rhai hynny i gyd sy'n beicio neu'n gyrru'n beryglus, yn goryrru, yn goddiweddyd ar linellau gwyn parhaus neu'n troseddu fel arall ar y ffyrdd."
Bydd patrolau yn parhau'r penwythnos hwn a hoffem atgoffa pawb fod cadw'n ddiogel ar y ffyrdd yn berthnasol i bob un ohonom, boed ar ddwy olwyn neu bedair.
Yn ystod y tywydd poeth ni ddylai gyrwyr yrru neu reidio beic ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau. Hyd yn hyn eleni mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud cannoedd o arestiadau am yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Aspinall: “"Gall cymryd un cyfle pan ydych o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau fod yn ddinistriol i chi, eich anwyliaid a defnyddwyr eraill y ffyrdd. Cynlluniwch o flaen llaw a sicrhewch os ydych allan yn yfed, eich bod â ffordd ddiogel a dibynadwy o fynd adref."
Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth o ran unigolion yn yfed a gyrru neu'n gyrru ar gyffuriau, neu a all fod yn cyflawni troseddau gyrru eraill, gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Dyma gyngor i bawb sy'n gyrru: