Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd cŵn dyn eu tynnu oddi arno yn dilyn sawl cwyn gan drigolion am flynyddoedd amdanynt yn baeddu ac yn crwydro heb neb hefo nhw.
Ymddangosodd Michael Roberts, o Jubilee Court, Bwcle, ger bron Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Llun, lle dywedwyd wrtho y byddai ei gŵn yn cael eu tynnu o'i ofal a'u hailgartrefu.
Roedd y dyn 76 oed wedi methu cydymffurfio gyda hysbysiad gwarchod cymunedol, a osodwyd ym mis Ionawr 2021.
Fodd bynnag, ar ddau achlysur ym mis Tachwedd llynedd, torrwyd y gorchymyn pan wnaeth Roberts fethu sicrhau fod ei gŵn ar dennyn priodol mewn man cyhoeddus i'w hatal rhag crwydro'r strydoedd.
Roedd hefyd wedi methu penffrwyno ei gŵn mewn man cyhoeddus. Methodd godi baw ei gŵn, a methodd sicrhau fod y cŵn ym mhresenoldeb rhywun priodol tra roeddent yn gyhoeddus.
Gorchmynnodd y llys iddo dalu dirwy o £80 am dorri'r hysbysiad, ynghyd â chostau o £200.
Dywedodd PC Natalie Williams o Dîm Plismona Cymdogaethau De Sir y Fflint: "Tra rydym yn deall yr effaith gall y canlyniad hwn gael ei gael ar y diffynnydd, mae wedi cymryd llawer o amser a gwaith i gyflawni'r canlyniad iawn yn yr achos hwn, er diogelwch y gymuned leol a llesiant y cŵn. Nid ydy'r penderfyniadau hyn yn hawdd. Rydym yn diolch i'r gymuned a Chyngor Sir y Fflint am eu cydweithrediad a'u cymorth yn y mater hwn."