Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch fawr wedi'i lansio i recriwtio mwy o blismyn yng ngogledd Cymru.
Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan y Prif Uwcharolygydd Sian Beck sydd newydd ddechrau rôl newydd gyda gofal plismona lleol ar draws y rhanbarth.
Mae hi’n awyddus i ledaenu’r neges fod ymuno â’r heddlu yn yrfa wych sy’n rhoi “boddhad swydd anhygoel”.
Mae’r ffenestr ar gyfer ceisiadau ar agor rhwng Awst 18 ac Awst 29 a cheir manylion ar wefan Heddlu Gogledd Cymru www.northwales.police.uk
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Beck, sy’n fam i un plentyn: “Mae’n swydd wych gydag ystod eang o opsiynau gyrfa”.
“Rydym yn wasanaeth 24/7 ac mae yna adegau pan fydd yn rhaid i chi roi’r oriau i mewn ond rydym yn canolbwyntio’n fawr ar lesiant ac yn cefnogi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith sy’n ddefnyddiol o ran recriwtio a chadw swyddogion.
“Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun i mi elwa’n fawr o gefnogaeth y gwasanaeth heddlu pan oeddwn yn gwneud gradd meistr, ac roedd hynny’n hynod o bwysig i mi.
“Mae amrywiaeth a chynhwysiant wedi datblygu’n aruthrol yn enwedig gyda chefnogaeth ein Prif Gwnstabl sy’n arwain yn genedlaethol ar amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant.
“Mae plismona wedi symud i’r 21ain ganrif yn Heddlu’r Gogledd o ran sut rydym yn recriwtio a sut rydym yn deall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol neu o ryweddau gwahanol.
“Rydym bob amser yn ymdrechu i wneud pethau’n well ond mae plismona yn deulu mwy cynhwysol y dyddiau hyn.”
Yn eironig ddigon, doedd dod yn heddwas ddim yn rhan o gynllun gwreiddiol Sian Beck - er ei bod hi’n ffan mawr o ddramâu trosedd ar y teledu, yn enwedig sioe lwyddiannus, The Bill.
Yn tyfu i fyny roedd hi hefyd wedi gwirioni am geffylau ac aeth i Brifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste i wneud gradd mewn gwyddor ceffylau.
Ond cafodd hi “foment eureka” pan ddangosodd ffrind lyfryn recriwtio plismona iddi.
Meddai: “Doeddwn i ddim wedi breuddwydio mynd yn heddwas nes i mi weld y llyfryn, gwneud mwy o ymchwil am y rôl a sylweddoli mai dyna roeddwn i eisiau ei wneud.
“Rwy'n berson pobl felly rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn timau ac rwy'n eithaf ymarferol ac yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored felly roedd meddwl gwneud swydd yn helpu pobl a’r ffaoth bod pob diwrnod yn hollol wahanol yn apelio'n fawr ataf.
“Yr atyniad arall oedd bod gennych chi sicrwydd un gyrfa ond llwyth o gyfleoedd gwahanol o fewn y swydd hefyd.
“Ymunais â Heddlu Gogledd Cymru ym mis Mawrth 2000 ac roeddwn yn gwybod yn syth fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir.
“Mae teulu’r heddlu yn llawn o bobol o’r un anian gyda gonestrwydd ac uniondeb sydd eisiau gwneud daioni yn eu cymunedau.”
Er ei bod yn swydd werth chweil, pwysleisiodd y Prif Uwcharolygydd Beck nad oedd bod yn heddwas yn opsiwn hawdd.
Ychwanegodd: “Mae'n rhaid i chi ddod i mewn i’r swydd gan ddeall fod y gwasanaeth yn un 24 awr a'i fod yn waith shifft, felly dydyn ni ddim yn gweithio 9 tan 5. Dydych chi ddim bob amser yn mynd adref pan fyddwch chi eisiau a dydych chi ddim gartref bob amser pan fydd eich teulu yn dathlu gwyliau banc.
“Rydych chi'n gweld pobl pan maen nhw ar eu mwyaf bregus ac yn yr amser gwaethaf yn eu bywydau ac mae hynny'n gallu peri gofid.
“Fodd bynnag, ar y llaw arall, mae bod yn heddwas yn yrfa hollol anhygoel gyda llu o gyfleoedd gwahanol.
“Gallwch gael gyrfa hir a llwyddiannus iawn fel swyddog patrôl, gan adeiladu cyfoeth o wybodaeth am y cymunedau rydych yn eu gwasanaethu.
“Neu os yw'n well gennych gallwch fynd am amrediad eang o arbenigeddau. Mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd a gallwch gael ystod fawr o yrfaoedd o fewn yr heddlu.
“Pa bynnag lwybr a ddewiswch, byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr anhygoel ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl o ddydd i ddydd, boed hynny fel prif gwnstabl neu’n heddwas ar batrôl yn ein cymunedau.
“Mae’n gyfrifoldeb enfawr ond mae hefyd yn fraint fawr.”
I gael rhagor o fanylion am sut i wneud cais ewch i www.northwales.police.uk